Mae'r Ysgol Feddygaeth yn AaGIC yn rheoli dros 20 o raglenni hyfforddi arbenigol ledled Cymru, gan gymryd hyfforddeion o hyfforddiant Craidd (Hyfforddiant Meddygaeth Fewnol neu IMT cam 1) hyd at lefel ymgynghorol a Thystysgrif Cwblhau hyfforddiant (TCC).
Mae hyfforddiant meddygaeth yng Nghymru yn rhoi'r cyfle i ddatblygu eich gyrfa i'w lawn botensial mewn amgylchedd hyblyg gyda chymorth da o fewn system gofal iechyd datganoledig. Gweler yma ac yma am ragor o wybodaeth am weithio a byw yng Nghymru.
Goruchwylir hyfforddiant ym mhob arbenigedd gan Bwyllgor Hyfforddi Arbenigol (STC) sy'n cael ei arwain gan Gyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi (TPD)
Gan weithio gyda'r pwyllgorau hyn, rydym yn:
- Anelu at sicrhau'r safonau uchaf o ofal cleifion trwy ddatblygu gweithlu meddygol medrus iawn
- Trefnu rhaglenni hyfforddiant yn unol â gofynion y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC), gan sicrhau bod modd bodloni'r holl ofynion cwricwlwm
- Recriwtio a dewis hyfforddeion ar gyfer IMT a hyfforddiant Uwch
- Sicrhau bod yna ymsefydlu priodol i'r rhaglen hyfforddi ar gyfer yr holl hyfforddeion newydd
- Sicrhau y darperir goruchwyliaeth addysgol reolaidd, o ansawdd uchel,
- Cefnogi'r ddarpariaeth a'r defnydd o'r e-bortffolio gan hyfforddeion a'u goruchwylwyr addysgol
- Gweithio gydag addysgwyr arweiniol lleol (Cyfarwyddwyr Meddygol Cyswllt, Arweinwyr Cyfadran, Tiwtoriaid Coleg) i sicrhau bod pob swydd mewn rhaglen yn darparu profiad o ansawdd uchel
- Sicrhau bod pob goruchwyliwr addysgol wedi cael hyfforddiant priodol (gan gynnwys sgiliau addysgu, gwerthuso a sgiliau asesu a hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth) am eu rôl fel addysgwyr ac aseswyr
- Sicrhau bod hyfforddeion yn cael mynediad at wybodaeth, cyngor a chwnsela gyrfaoedd sy'n hyddysg ac yn briodol
- Yn rhagweithiol wrth adnabod hyfforddeion sydd angen cymorth neu arweiniad ychwanegol a gweld bod cymorth yn cael ei ddarparu'n gyflym pan fo angen
- Monitro asesiad o hyfforddiant gan gynnwys adolygiadau blynyddol o ddilyniant cymhwysedd (ARCPs) ac argymhellion ar gyfer CCT
Mae'r Ysgol Feddygaeth yn gyfrifol i'r Deon Meddygol Ôl-raddedig ac rydym yn gweithio'n agos gyda Bwrdd Hyfforddi Ôl-raddedig y Colegau Brenhinol (JRCPTB) a'i Bwyllgorau Cynghori Arbenigol (SACs). Hefyd, mae gennym gysylltiadau agos â Choleg Brenhinol y Meddygon (Cymru) a rhwydwaith Tiwtoriaid y Coleg Brenhinol. Pennaeth yr Ysgol Meddygaeth yw Dr Shaun Smale.
Rhagor o wybodaeth
Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy edrych ar dudalennau arbenigedd unigol. Fel arall, neu am wybodaeth gyffredinol yn ymwneud â'r Ysgol Feddygaeth, cysylltwch â heiw.recruitment@wales.nhs.uk neu ffoniwch 01443 824247.