Neidio i'r prif gynnwy

Ein lleoliad

Cyfarwyddiadau i Dŷ Dysgu

Mae AaGIC yn Nhŷ Dysgu, Nantgarw yn ne-ddwyrain Cymru.
Nid yw Tŷ Dysgu yn rhy bell o Gyffordd 32 ar yr M4, ac mae ffyrdd cyfleus yn ei gysylltu â chymoedd de Cymru a thu hwnt ar hyd yr A470.

Gyda'r Car

Teithio ar hyd yr M4 o’r Dwyrain/Gorllewin

  • Dilynwch yr M4 hyd at gyffordd 32 (Tongwynlais) a throi ar yr A470.
  • Dilynwch yr A470 nes eich bod yn cyrraedd y gyffordd ar gyfer Cefn Coed (Ystad Ddiwydiannol Trefforest).
  • Ger y gylchfan, cymerwch yr allanfa gyntaf ar gyfer Ffordd Caerffili/A4054.
  • Ger y gylchfan nesaf, cymerwch y bedwaredd allanfa ar gyfer Ffordd Cefn Coed.
  • Bydd Tŷ Dysgu ar y chwith. Nodwch mae maes parcio Tŷ Dysgu ar gyfer staff yn unig, ond mae yna opsiynau i ymwelwyr parcio ar y ffyrdd gerllaw yr adeilad.

Teithio ar hyd yr A470 o’r Gogledd

  • Dilynwch yr A470 i’r de tuag at Nantgarw.
  • Cymerwch yr allanfa i’r A468/A4054 ar gyfer Caerffili/Ffynnon Taf.
  • Ger y gylchfan, cymerwch y drydedd allanfa ar gyfer Ffordd Caerffili/A4054.
  • Ger y gylchfan nesaf, cymerwch y bedwaredd allanfa ar gyfer Ffordd Cefn Coed.
  • Bydd Tŷ Dysgu ar y chwith. Nodwch mae maes parcio Tŷ Dysgu ar gyfer staff yn unig, ond mae yna opsiynau i ymwelwyr parcio ar y ffyrdd gerllaw yr adeilad.
Teithio ar hyd yr A470 o’r De (Caerdydd)
  • Dilynwch yr A470/Heol y Gogledd o ganol dinas Caerdydd.
  • Dilynwch yr A470 nes eich bod yn cyrraedd y gyffordd ar gyfer Cefn Coed (Ystad Ddiwydiannol Trefforest).
  • Ger y gylchfan, cymerwch yr allanfa gyntaf ar gyfer Ffordd Caerffili/A4054.
  • Ger y gylchfan nesaf, cymerwch y bedwaredd allanfa ar gyfer Ffordd Cefn Coed.
  • Bydd Tŷ Dysgu ar y chwith. Nodwch mae maes parcio Tŷ Dysgu ar gyfer staff yn unig, ond mae yna opsiynau i ymwelwyr parcio ar y ffyrdd gerllaw yr adeilad.

Gyda’r Trên

Gorsaf Ystad Trefforest yw’r orsaf reilffordd agosaf i Dŷ Dysgu. Mae dwy linell reilffordd yn mynd trwy’r orsaf: Llinell Merthyr a Llinell Rhondda.
Sylwer y bydd yn cymryd tua 40 munud i gerdded o’r orsaf reilffordd i Dŷ Dysgu ar hyd Ffordd Willowford > Ffordd Gwaelod y Garth > Main Avenue.

Gyda’r Bws

Mae bysiau’n mynd drwy Nantgarw yn fynych. Mae dau gwmni’n cynnig cludiant i ardal Caerdydd ac yn ôl.

  • Stagecoach South Wales
    • Rhif 26 Caerdydd - Y Coed Duon
    • Rhif 132 Caerdydd - Maerdy
  • Edwards Coaches
    • Rhif 400 Caerdydd - Gwaunmeisgyn

Mae tair arhosfan yn Nantgarw (pob un o fewn cyrraedd hawdd i Dŷ Dysgu) - Nantgarw Castle Bingo, Tafarn Cross Keys Nantgarw a Pharc Nantgarw.

Am fwy o fanylion ynglŷn ag amserlenni a thocynnau, ewch i wefan Traveline Cymru. Cewch wybod gan ddarparwyr teithio lleol am yr amserlenni a’r wybodaeth diweddaraf.

Gyda’r Beic

Mae Llwybr y Taf yn cael ei adnabod fel llwybr prydferth a diogel i gyrraedd Ty Dysgu. Llwybr 16.5 milltir yw Llwybr y Taf, sydd yn rhedeg rhwng Bae Caerdydd a Phontypridd, ac yn mynd heibio Nantgarw. Mae rhan fwyaf o’r llwybr yn llwybr seiclo, ond mae’n ymuno efo rhewlydd dawel yn Nhongwynlais.

Am fwy o wybodaeth am y llwybr, ewch i wefan Visit Wales.