Defnyddir gofal sylfaenol i ddisgrifio'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pobl sydd angen gofal iechyd. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau gan bractisau meddygon teulu lleol, deintyddion, fferyllwyr, optegyddion, a thimau cymunedol ehangach, megis ymwelwyr iechyd, nyrsys ardal a ffisiotherapyddion.
Gofal sylfaenol effeithiol yn dibynnu ar dimau amlddisgyblaethol. Mae hyn yn golygu bod gweithwyr proffesiynol hyfforddedig, ystwyth yn gweithio gyda'i gilydd fel tîm i wneud defnydd o sgiliau pawb a darparu gofal gwell i gleifion.
Isod ceir cyfleoedd datblygu i chi o fewn gofal sylfaenol a chymunedol.
Mae gennym uned yn AaGIC sy'n gyfrifol am gefnogi datblygiad tîm aml-broffesiynol ym maes gofal sylfaenol a chymunedol.
Nod yr uned hon yw gweithio gydag eraill i gynllunio a chyflwyno rhaglenni cenedlaethol i greu timau amlddisgyblaethol o fewn gofal sylfaenol ar gyfer Cymru iachach.
Mae'r uned yn helpu:
Gallwch gysylltu â'r uned trwy e-bostio HEIW.PrimaryCare@wales.nhs.uk.