Neidio i'r prif gynnwy

Addysg yn seiliedig ar efelychiad

Offer ymarfer CPR
Diffiniad Cymru Gyfan o addysg sy'n seiliedig ar Efelychu

Mae efelychu yn offeryn dysgu sy'n cynorthwyo datblygiad drwy ddysgu drwy brofiad yn sgil creu neu atgynhyrchu set benodol o gyflyrau sy'n debyg i sefyllfaoedd bywyd go iawn.

Dylai ddarparu amgylchedd diogel lle gall cyfranogwyr ddysgu o'u camgymeriadau heb unrhyw berygl i’r claf. Dylai wneud hyn gan ganiatáu i unigolion ddadansoddi ac ymateb i'r sefyllfaoedd realistig hyn, gyda'r nod o ddatblygu neu wella eu gwybodaeth, eu sgiliau, eu hymddygiad a'u hagweddau. (Hawker et al. 2022)

 

Cefndir i ddiffiniad Cymru Gyfan o addysg sy'n seiliedig ar efelychu

Mae nifer o ddiffiniadau ar gyfer efelychu neu addysg efelychu (SBE) yn bodoli, ond nid oes diffiniad y cytunir arno gan bawb.

Cafodd diffiniad gweithio ar gyfer SBE ei greu gan Dîm Efelychu AaGIC yn 2020 a'i rannu gyda'r gymuned efelychu gofal iechyd yng Nghymru. Wedyn, gwnaeth y tîm astudiaeth Delphi (2021/22) i gyrraedd cytundeb barn ar ddiffiniad 'Cymru gyfan' o SBE.

Ymhlith gwahanol gamau astudiaeth Delphi roedd:

  • Adolygiad o lenyddiaeth bresennol ynghylch diffiniadau o efelychu a SBE
  • Trafodaethau gydag arbenigwyr wrth ddefnyddio methodoleg astudio Delphi
  • Datblygu protocol ymchwil
  • Cais am gymeradwyaeth foesegol
  • Llunio holiaduron astudio Delphi
  • Recriwtio arbenigwyr efelychu i'r astudiaeth o bob cwr o Gymru.
 
Astudiaeth Delphi:

Roedd yr astudiaeth yn cynnwys tair rownd o arolygon ar-lein lle gofynnwyd i'r panel arbenigol ystyried datganiadau ynghylch diffiniad a nodweddion efelychu fel y’u disgrifir yn y llenyddiaeth bresennol. Cafodd unrhyw ddatganiadau nad oedd yna gytundeb barn amdanynt, ac unrhyw ddatganiadau newydd oedd yn cael eu cynnig yn ystod rownd un, eu cynnwys yn yr ail rownd.

Yn y rownd olaf, gofynnwyd i'r cyfranogwyr osod yr holl ddatganiadau a gafwyd cytundeb barn amdanynt yn ystod rowndiau un a dau yn nhrefn blaenoriaeth o 1- y pwysicaf i 10- y lleiaf pwysig. Cafodd ymatebion eu casglu a’u sgorio’n wrthgyfartal. Fe wnaeth tri aelod o'r tîm ymchwil adolygu a dilysu'r datganiadau am gytundeb barn ar ddiwedd pob rownd.

Dyma'r astudiaeth gyntaf i ddefnyddio techneg Delphi i gytuno ar ddiffiniad rhyngbroffesiynol o SBE ar lefel genedlaethol. Mae'r diffiniad yn cael ei rannu'n ehangach gyda rhanddeiliaid allweddol o bob rhan o bedair gwlad y DU sydd â chwmpas i gyrraedd consensws y DU cyfan.

I ddyfynnu’r diffiniad uchod cyfeiriwch fel a ganlyn:

 

Hawker C, Diaz-Navarro C, Jones B, Mitra S, Cook SC & Bartholomew B. 2022. Developing an All-Wales definition of Simulation-Based Education. International Journal of Healthcare Simulation. 2(1): A40-A41. doi: 10.54531/INHM4618

Cysylltu â ni

E-bost: HEIW.Simulation@wales.nhs.uk

Os hoffech ymuno â’n rhestr bostio rhowch wybod inni!

#SimulationWales

 
Newyddion

 

Dolenni defnyddiol