Neidio i'r prif gynnwy

Fforwm myfyrwyr iechyd Cymru

Abstraction of a network of people

Fforwm amlddisgyblaethol yw Fforwm Myfyrwyr Iechyd Cymru (WHSF), sy’n cynnwys myfyrwyr cyn-cofrestru ar gyrsiau gofal iechyd sy’n cael eu cyflawni yng Nghymru, sy’n teimlo’n angerddol dros lywio profiadau dysgu myfyrwyr presennol, a darpar fyfyrwyr.

Mae’r WHSF ar agor i’r holl fyfyrwyr gofal iechyd ac yn grymuso ‘myfyrwyr i gefnogi myfyrwyr’, oherwydd yma yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), ry’n ni’n credu y gall myfyrwyr wneud gwahaniaeth!

Mae’r fforwm yn creu amgylchedd cynhwysol ble gall myfyrwyr:

  • gael llais
  • rhannu gwybodaeth ac adnoddau
  • trafod profiadau ar leoliad
  • cael cyfleoedd i arwain
  • herio ac amlygu pryderon ac arferion gorau
  • rhwydweithio gyda gweithwyr proffesiynol gofal iechyd eraill er mwyn hyrwyddo dysgu rhyngbroffesiynol
  • trafod materion addysg sy’n berthnasol i fyfyrwyr gofal iechyd yng Nghymru.

Er mwyn cael lle ar y fforwm, rhaid i fyfyrwyr ymrwymo i fod yn bresennol mewn dau gyfarfod rhithwir allan o dri mewn blwyddyn. Bydd methu â gwneud hynny’n arwain at ganslo eu haelodaeth ar y fforwm.

Yn y cyfarfodydd, bydd myfyrwyr yn cael cyfle i rwydweithio, trafod ac ymgysylltu â ffigurau proffil uchel o fewn y GIG, prifysgolion a Llywodraeth Cymru. Yn ogystal, bydd gan fyfyrwyr fynediad at adnoddau ar-lein, cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus a chynulleidfaoedd gyda siaradwyr ysbrydoledig, rhwydwaith gyrfaoedd, defnyddwyr gwasanaeth a myfyrwyr ôl-raddedig yn eu meysydd eu hunain.

Os ydych chi’n fyfyriwr gofal iechyd, neu’n adnabod myfyriwr gofal iechyd sy’n astudio yng Nghymru ac sy’n angerddol dros wella profiadau addysgol i fyfyrwyr, ymunwch â WHSF heddiw!

QR Code

Gallwch gofrestru i ymuno â WHSF drwy ddefnyddio’r ddolen neu sganio’r cod QR isod

Cysylltwch â Fforwm Myfyrwyr Iechyd Cymru

Yn yr adran hon

Two students during the forum
Manteision ymuno â Fforwm Myfyrwyr Iechyd Cymru (WHSF)

Ymhlith manteision ymuno â’r fforwm mae.

Group of people sitting down during WHSF
Pwyllgor Fforwm Myfyrwyr Iechyd Cymru (WHSF)

Mae Fforwm Myfyrwyr Iechyd Cymru (WHSF) yn datblygu pwyllgor fydd yn cynnwys Cadeirydd ac Is-gadeirydd ar gyfer pob rhwydwaith arbenigol.

Collage of images showing food, football pitch and students
Cyfarfodydd Fforwm Myfyrwyr Iechyd Cymru (WHSF)
Two members of the WHSF
Beth mae cyn-aelodau ac aelodau presennol yn ei ddweud?