Neidio i'r prif gynnwy

Pwyllgor Fforwm Myfyrwyr Iechyd Cymru (WHSF)

Group of people sitting down during WHSF

Mae Fforwm Myfyrwyr Iechyd Cymru (WHSF) yn datblygu pwyllgor fydd yn cynnwys Cadeirydd ac Is-gadeirydd ar gyfer pob rhwydwaith arbenigol.

Bydd y myfyriwr yn cyflawni rôl cadeirydd ac is-gadeirydd am un flwyddyn, gyda’r is-gadeirydd yn symud i swydd y cadeirydd ar ôl i’r flwyddyn ddod i ben. Bydd rhwydweithiau’n ethol cadeiryddion ac is-gadeiryddion i’w cynrychioli.

Bydd y cadeirydd yn gyfrifol am:

  • symud y fforwm ymlaen
  • sicrhau bod gweledigaeth y fforwm yn cael ei chyflawni
  • rheoli a monitro eu rhwydwaith unigol
  • codi pryderon/hyrwyddo arfer gorau’r rhwydwaith
  • helpu i hwyluso agenda ar gyfer cyfarfodydd y fforwm
  • ymgysylltu’n rheolaidd â staff Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
  • ymweld ag AaGIC unwaith y flwyddyn

Bydd yr Is-gadeirydd yn gyfrifol am:

  • symud y fforwm ymlaen
  • sicrhau bod gweledigaeth y fforwm yn cael ei chyflawni
  • cynorthwyo i reoli rhwydweithiau unigol
  • codi pryderon/hyrwyddo arfer gorau’r rhwydwaith
  • helpu i hwyluso agenda ar gyfer cyfarfodydd y fforwm
  • cefnogi’r cadeirydd, a chadeirio os na fydd yn gallu bod yn bresennol
  • ymgysylltu’n rheolaidd â staff AaGIC
  • ymweld ag AaGIC unwaith y flwyddyn

Felly, beth yw’r manteision o fod yn gadeirydd/is-gadeirydd?

  • Ymweld ag AaGIC yng Nghaerdydd unwaith y flwyddyn a rhwydweithio gydag aelodau pwyllgor eraill o bob rhan o Gymru, a chael cinio blasus.
    • Gall aelodau pwyllgor hawlio eu costau teithio er mwyn mynd i gyfarfodydd AaGIC. Dim ond ar gyfer aelodau pwyllgor sy’n gorfod teithio dros 2.5 awr i fynychu cyfarfod y bydd trefniadau trên a/neu lety’n cael eu trefnu.
  • Cyfleoedd arweinyddiaeth a datblygiad proffesiynol parhaus i aelodau pwyllgor.
  • Cyfleoedd i ymgysylltu ag aelodau dylanwadol o fewn AaGIC, Llywodraeth Cymru ac unigolion proffil uchel o fewn y GIG.
  • Cyfleoedd i ymgysylltu â gyrfaoedd ac addysg ôl-raddedig.

Rhwydwaith Cynfyfyrwyr WHSF

Ar ôl graddio, bydd gan fyfyrwyr gyfle i ymuno â grŵp Cynfyfyrwyr WHSF, sef rhwydwaith rhithwir o gyn-aelodau WHSF. Cylch gwaith y grŵp yw bod yn grŵp cyfeirio ar gyfer gweithwyr proffesiynol iechyd sydd newydd gymhwyso, rhoi mewnbwn i ymgynghoriadau gofal iechyd perthnasol a rhannu eu profiadau fel gweithwyr proffesiynol iechyd sydd newydd gymhwyso gyda’r WHSF.

Ni fydd gan yr aelodau sy’n gyn-fyfyrwyr unrhyw ymrwymiad i fynychu cyfarfodydd fforwm, ond bydd angen iddynt ymgysylltu gyda’u rhwydwaith arbenigol a’r rhwydwaith grŵp cyn-fyfyrwyr. Gall eu mewnbwn yn y rhwydwaith israddedig roi cymorth cyfoedion gwerthfawr i fyfyrwyr a rhoi cyfle i fyfyrwyr holi aelodau cymwys o’u proffesiwn.

Yn yr adran hon

Two students during the forum
Manteision ymuno â Fforwm Myfyrwyr Iechyd Cymru (WHSF)

Ymhlith manteision ymuno â’r fforwm mae.

Group of people sitting down during WHSF
Pwyllgor Fforwm Myfyrwyr Iechyd Cymru (WHSF)

Mae Fforwm Myfyrwyr Iechyd Cymru (WHSF) yn datblygu pwyllgor fydd yn cynnwys Cadeirydd ac Is-gadeirydd ar gyfer pob rhwydwaith arbenigol.

Collage of images showing food, football pitch and students
Cyfarfodydd Fforwm Myfyrwyr Iechyd Cymru (WHSF)
Two members of the WHSF
Beth mae cyn-aelodau ac aelodau presennol yn ei ddweud?