Rydym yn datblygu Cynllun Gweithlu Strategol ar gyfer Genomeg mewn partneriaeth â Phartneriaeth Genomeg Cymru (GPW).
Mae'r cynllun yn cael ei ddatblygu mewn ymateb i un o nodau allweddol Cynllun Cyflawni Cymru ar gyfer Genomeg.
Wrth ddatblygu'r cynllun hwn rydym yn anelu at nodi set o gamau gweithredu sy'n cyd- fynd â'r themâu o fewn Strategaeth y Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal i gymryd ymlaen mewn partneriaeth dros y 3 blynedd nesaf.
Bydd cwmpas cynllun y gweithlu yn canolbwyntio ar ddwy elfen allweddol:
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym wedi ymgysylltu’n sylweddol â rhanddeiliaid o bob rhan o wasanaethau arbenigol, y gweithlu anarbenigol ehangach, yn ogystal ag ymchwil helaeth ac adolygiad o ddeallusrwydd gweithlu sydd ar gael fel bod gennym farn glir ar y blaenoriaethau y mae angen i ni fynd i'r afael â hwy dros y 3 blynedd nesaf. Mae hyn wedi llywio a llunio cyfres arfaethedig o gamau gweithredu.
Er bod llawer o'r camau gweithredu yn berthnasol i'r gweithlu arbenigol, mae angen dull system gyfan i sicrhau canlyniadau gwell i gleifion, felly datblygwyd camau allweddol hefyd i addysgu, hyfforddi ac ysbrydoli gweithlu ehangach y GIG i ddod yn bartneriaid gweithredol wrth ddarparu gofal iechyd genomig i bobl yng Nghymru i wireddu ei lawn botensial.