Mae gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) rôl arweiniol wrth addysgu, hyfforddi, datblygu a siapio'r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru.
Prif amcan y Ddeoniaeth Feddygol yw darparu rhagoriaeth mewn addysg a hyfforddiant meddygol a deintyddol ôl-raddedig drwy sicrhau bod pob meddyg a deintydd dan hyfforddiant yn cael mynediad at gyfleusterau a chymorth addysgol ôl-raddedig o ansawdd uchel fel y gallant gyflawni eu potensial wrth ddarparu gwasanaethau i’r GIG yng Nghymru.
O fewn pob Darparwr Addysg Lleol (DALl) (Bwrdd Iechyd neu Ymddiriedolaeth) yng Nghymru, ceir ‘Tîm y Gyfadran’ sy’n ganolog wrth gefnogi, darparu a rheoli addysg a hyfforddiant meddygol ôl-raddedig yng Nghymru.
Mae union gyfansoddiad Timau Cyfadrannau yn amrywio o fewn pob DALl, ond fel arfer, mae Timau Cyfadrannau’n cynnwys:
Yn arwain ar y broses o ddarparu addysg a hyfforddiant meddygol o fewn Darparwr Addysg lleol, gan sicrhau bod safonau'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) yn cael eu bodloni a bod strwythur llywodraethu cadarn o ran addysg a hyfforddiant meddygol ar waith.
Yn cael ei redeg gan lyfrgelloedd iechyd GIG Cymru a Phrifysgol Caerdydd i ddarparu gwybodaeth iechyd i gefnogi gofal cleifion, addysg, hyfforddiant ac ymchwil ar gyfer staff GIG Cymru, gan gynnwys yr holl feddygon a deintyddion dan hyfforddiant, a staff Prifysgol Caerdydd a myfyrwyr ar leoliad. Am fwy o wybodaeth, gweler Llyfrgelloedd GIG Cymru.
Gan weithio mewn partneriaeth ag AaGIC i gefnogi, darparu a rheoli hyfforddiant meddygol ôl-raddedig yng Nghymru. Mae nifer o amrywiadau i fodel arweiniol cyfadrannau yn bodoli ar draws Byrddau Iechyd sydd wedi’i bennu gan anghenion lleol a strwythurau llywodraethu, ond mae meysydd cyfrifoldeb yn cynnwys hyfforddwyr, hyfforddeion neu Ansawdd. Am fwy o wybodaeth gweler arweinwyr cyfadrannau.
Yn gyfrifol am redeg y Canolfannau Addysg o fewn pob Bwrdd Iechyd i gefnogi, darparu a rheoli hyfforddiant meddygol ôl-raddedig yng Nghymru. Maent yn aml yn bwynt cyswllt cyntaf defnyddiol gyda'r Tîm Addysg / Cyfadran.
Sicrhau bod hyfforddiant Sylfaen o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu, drwy fynediad i hyfforddiant, arfarnu ac asesu addas fel y nodir yng Nghwricwlwm y Rhaglen Sylfaen ar gyfer hyfforddeion.
Cynllunio a chynnal y Cynllun Hyfforddiant Arbenigol ar gyfer Ymarfer Cyffredinol yn eu rhanbarth, yn unol â pholisïau cenedlaethol a rhanbarthol ac mewn ymgynghoriad â Deoniaid Cyswllt, Cyfarwyddwyr Rhaglenni eraill, Hyfforddwyr, Hyfforddeion ac Arweinwyr Cyfadrannau.
Darparu cymorth ac arweiniad i feddygon Staff ac Arbenigwyr Cyswllt (SAC) yn y Bwrdd Iechyd ac arweinyddiaeth o ran datblygiad proffesiynol meddygon SAC a chyfraniad meddygon SAC at addysgu a hyfforddi hyfforddeion mewn arbenigeddau perthnasol.
Os ydych yn anelu at gael rôl mewn addysg feddygol yn y dyfodol, cysylltwch â Rheolwr Addysg Feddygol eich canolfan addysg leol am fwy o wybodaeth ar sut i gymryd rhan yng ngweithgareddau Tîm y Gyfadran.