Mae cyfarfodydd a drefnwyd gan y DALl yn rhoi cyfle i holl aelodau tîm y gyfadran drafod eu gwaith a chydweithio ar faterion sy’n gysylltiedig ag addysg a hyfforddiant meddygol yn eu DALl, a rhannu gwybodaeth. Caiff pob tîm eu hannog i gwrdd yn rheolaidd (wyneb yn wyneb neu fideogynadledda), a hefyd i gyfathrebu'n anffurfiol â'i gilydd (ar e-bost, ffôn etc.). Gofynnwch i Reolwr Addysg Feddygol eich canolfan addysg leol am wybodaeth a dyddiadau’r cyfarfodydd.
Mae cyfarfodydd a digwyddiadau a drefnwyd gan AaGIC fel arfarniadau tîm a Chynhadledd Tîm y Gyfadran yn hwyluso datblygiad sgiliau penodol, rhoi cyfleoedd i rwydweithio a chydweithio â thimau eraill, a gwella’r cyfathrebu rhwng Timau Cyfadrannau ac AaGIC. Felly mae ymgysylltu â gweithgaredd datblygu‘r Gyfadran yn amhrisiadwy ac anogir aelodau'r Tîm yn gryf i fynychu cynifer o ddigwyddiadau a chyfarfodydd â phosibl.
Dylai aelodau Tîm y Gyfadran gydweithio i sicrhau dull cydlynus o ymdrin â phob mater sy'n ymwneud â darparu a rheoli addysg a hyfforddiant meddygol. Mae hyn yn cynnwys cyfranogiad priodol â’r holl faterion hyfforddi a chyd-berchnogaeth, nid dim ond y rhai sy'n ymwneud â maes cyfrifoldeb unigol aelod o'r tîm.
Dylai timau cyfadrannau sicrhau ymgysylltiad priodol â grwpiau o randdeiliaid allweddol (gan gynnwys Tiwtoriaid y Coleg Brenhinol, Penaethiaid Ysgolion, Cyfarwyddwyr Rhaglenni Hyfforddi etc.) i sicrhau dull cydweithredol o ymdrin â holl faterion hyfforddi ac i wella’r cyfathrebu rhwng tîm y gyfadran a'i randdeiliaid.
I hwyluso proses bontio esmwyth o addysg feddygol is-raddedig i addysg a hyfforddiant meddygol ôl-raddedig, dylai timau cyfadrannau sicrhau ymgysylltiad priodol gyda chynrychiolwyr Addysg Feddygol Is-raddedig.
Mae AaGIC yn gweithio i ddarparu gofal o ansawdd uchel i gleifion drwy fonitro a datblygu addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel a darparu seilwaith ‘cyfadran leol’ i’w gefnogi.
Mae AaGIC wedi ymrwymo i: