Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsio a Bydwreigiaeth

Croeso i’r wefan am bopeth am Nyrsio a Bydwreigiaeth yng Nghymru

Ni yw’r gweithlu proffesiynol mwyaf yn y GIG, ac rydym yn gartref i bedair cangen Nyrsio, Bydwreigiaeth a nifer sylweddol o rolau arbenigol.

Ein nod ni yw bwrw ymlaen gyda thrawsnewidiad a sicrhau darpariaeth gweithio cydweithredol ym maes gofal o safon fel rhan o dîm aml-ddisgyblaethol.

Mae’r tîm Nyrsio a Bydwreigiaeth yn gartref i bortffolio eang, gan ganolbwyntio ar endosgopi, iechyd meddwl, cynllun gweithlu nyrsio, rhaglen staffio Nyrsio Cymru Gyfan, yn ogystal â chefnogi darpariaeth yr addysg a’r hyfforddiant sy’n ofynnol i sicrhau ein bod ni i gyd yn gweithio ar ben ein trwydded.

 

Rhaglen Staffio Nyrsio Cymru Gyfan

Diben Rhaglen Staffio Nyrsio Cymru Gyfan yw darparu dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi’r defnydd effeithiol o staff nyrsio. Mae sefydliadau ar draws GIG Cymru yn gweithio ar y cyd ac yn defnyddio fframwaith cyffredin o ddulliau a thechnegau sy’n dilyn dull trionglog i lywio’r defnydd effeithiol o staff nyrsio. Mae’r rhaglen hefyd yn darparu cydlyniant gweithredol ar gyfer cyfres o lifau gwaith a chymorth, canllawiau a chyfeiriad i GIG Cymru i sicrhau eu bod yn dilyn ymagwedd Unwaith i Gymru wrth fodloni gofynion y Ddeddf. Bydd y rhaglen waith genedlaethol yn galluogi sefydliadau GIG Cymru i ddatblygu dulliau cynllunio gweithlu sy’n seiliedig ar dystiolaeth i gyfrifo’r nifer a’r cyfuniad o sgiliau iawn o staff nyrsio sy’n ofynnol i ddarparu gofal effeithiol i gleifion yn eu maes arbenigedd nhw.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Staffio Nyrsio Cymru Gyfan: Rhaglen Staffio Nyrsio Cymru Gyfan.