Neidio i'r prif gynnwy

#HyfforddiGweithioByw

 

Mae Hyfforddi Gweithio Byw (TWL/HGB) yn ymgyrch atynnu cenedlaethol a rhyngwladol i farchnata Cymru fel lle dymunol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol hyfforddi, gweithio a byw ynddo.

Mae tîm HGB yn cynnal nifer o ymgyrchoedd denu bob blwyddyn, gan gynnwys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n rhannu eu straeon am ddewis hyfforddi a/neu weithio yng Nghymru.

Mae'r ymgyrchoedd hyn yn canolbwyntio ar ein lluniau 'hollt-creadigol' nod masnach sy'n dangos gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn eu gweithle, ynghyd â hwy yn mwynhau hobïau a diddordebau, fel syrffio, beicio, heicio a choginio. Mae enghreifftiau o’r ymgyrchoedd creadigol hollt hyn i’w gweld ar wefan #HyfforddiGweithioByw bwrpasol.

Wedi’i lansio’n wreiddiol fel ymgyrch sy’n canolbwyntio’n bennaf ar feddygon teulu ym mis Hydref 2016, mae wedi datblygu ers hynny i gynnwys ymgyrch nyrsio a bydwreigiaeth, ymgyrch ffocws seiciatreg, ymgyrch ddeintyddiaeth ac ymgyrch fferylliaeth.

Mae ymgyrchoedd denu eraill i gefnogi recriwtio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i GIG Cymru yn cael eu datblygu, gan gynnwys ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu ddod yn rhan o HyfforddiGweithioByw, ewch i’n gwefan neu anfonwch e-bost atom yn TrainWorkLive@Wales.NHS.uk