Neidio i'r prif gynnwy

Addysg ôl-raddedig ar gyfer Gweithwyr Iechyd Proffesiynol

Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ymgymryd ag addysg ôl-gofrestru i ddatblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau ymhellach. Mae hyn yn eu galluogi i wella eu hymarfer ac i ddarparu gwell gwasanaethau i gleifion.

Mae addysg ôl-raddedig yn adeiladu ar y wybodaeth a’r sgiliau cychwynnol wrth gymhwyso a chofrestru am y tro cyntaf. Mae’n rhoi gwybodaeth a sgiliau uwch i weithwyr proffesiynol sy’n berthnasol i’w rôl broffesiynol.

Mae AaGIC yn cynnal adolygiad strategol ar hyn o bryd i addysg ôl-raddedig a chanlyniadau allweddol i’r prosiect;

  • Adolygiad systematig o addysg ôl-raddedig a gomisiynir ar hyn o bryd er mwyn adolygu’n feirniadol ei heffaith ar ansawdd gofal, gwerth, comisiynu llywodraethu a rheoli contractau
  • Ymgysylltu â rhanddeiliaid arweiniol er mwyn sicrhau bod yr addysg a gomisiynir yn diwallu anghenion gwasanaethau yn y dyfodol
  • Comisiynu addysg yn y dyfodol a fydd yn gwella ansawdd gofal trwy ymgorffori gwell defnydd o’r iaith Gymraeg, gwelliant digidol, arweinyddiaeth a gweithio rhyngbroffesiynol
  • Sicrhau darpariaeth addysg o'r safon uchaf trwy gomisiynu, llywodraethu a rheoli contractau mewn modd boddhaol

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn darparu cymorth ychwanegol i gyfundrefnau er mwyn ariannu hyfforddiant a datblygiad staff. Telir ffioedd dysgu’r holl fyfyrwyr sy’n derbyn y cyllid hwn drwy eu cyfundrefn.

Mae canllawiau ariannu ar gael yma.

Rhaid i bob darpar ymgeisydd am gyllid addysg ôl-raddedig sicrhau bod ei reolwr llinell yn nodi'r gofyniad hwn fel rhan o'i Adolygiad Datblygu Gwerthuso Personol a bod ei adran addysg yn cytuno iddo.