Mae addysg ar gael i alluogi nyrsys a bydwragedd sydd wedi cofrestru i ymgymryd â Nyrsio Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol (SCPHN) er mwyn gweithio mewn rolau iechyd cyhoeddus.
Mae cyflawni addysg Nyrsio Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol (SCPHN) yn galluogi nyrsys a bydwragedd sydd wedi cofrestru i ymuno â chofrestr iechyd cyhoeddus y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Mae hon yn cydnabod eu sgiliau arbenigol ac yn eu galluogi i weithio mewn meysydd gan gynnwys ymweliadau iechyd a nyrsio ysgol.