Gan weithio mewn partneriaeth â'r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol, rydym yn datblygu Cynllun Gweithlu Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol.
Ymgysylltwyd yn gynnar â rhanddeiliaid allweddol ac mae consensws clir bod angen Cynllun Gweithlu Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol.
Mae nifer o ffactorau allweddol sy'n llywio'r angen am Gynllun Gweithlu Strategol, yn enwedig heriau sylweddol o ran y gweithlu sy'n effeithio ar gynaliadwyedd gwasanaethau gofal sylfaenol. Bydd y cynllun hwn yn ystyried siâp a maint y gweithlu sydd ei angen i fodloni iechyd y boblogaeth ac i fynd i'r afael â materion ochr-gyflenwad ar gyfer y dyfodol.
Ein nod ar gyfer y cynllun hwn yw:
Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar y tîm aml-broffesiynol craidd yng nghyd-destun datblygu Model Gofal Sylfaenol Cymru (PCMW) a nodi'r gweithlu sydd ei angen i ddarparu gwasanaethau effeithiol o fewn ôl troed clwstwr. Bydd y cynllun yn ceisio nodi'r camau gweithredu tymor byr, canolig a hir sydd eu hangen i sicrhau y darperir model gweithlu cynaliadwy.
Ein nod yw datblygu’r cynllun erbyn mis Tachwedd 2023 fel ei fod yn dylanwadu ar ddatblygiad Cynllun Tymor Canolig Integredig (IMTP) lefel Clwstwr a Bwrdd Iechyd ar gyfer 2024/25.
Byddwn yn ymgysylltu’n helaeth ar y cynllun yn ystod y flwyddyn nesaf gan gysylltu â chlystyrau, Cydweithrediadau Proffesiynol, contractwyr annibynnol, Byrddau Iechyd, cyrff proffesiynol ac ystod eang o randdeiliaid.
Bydd rhagor o wybodaeth am gynnydd y cynllun hwn ar gael yma yn fuan. Gallwch gysylltu â ni trwy gyfeiriad e-bost pwrpasol heiw.primarycarewfp@wales.nhs.uk