Ni ellir gorbwysleisio rôl arweinyddiaeth i gyfrannu at lwyddiant Cymru Iachach. Mae'n ofynnol i gael arweinwyr a fydd yn sicrhau diwylliant o les, gwelliant parhaus, didwylledd a bod diogelwch seicolegol yn ffynnu o fewn ein gweithlu a'n sefydliadau.
Mae gan AaGIC rôl arweiniol o ran cyflawni'r agenda arweinyddiaeth ar sail unwaith i Gymru ac yn unol â'r uchelgais i weddnewid y gweithlu gofal iechyd yng Nghymru.
Mae Cynllun Blynyddol 2019 - 20 AaGIC yn nodi prosiectau cychwynnol i wthio'r agenda arweinyddiaeth yn ei blaen.
Mae ‘Gwella’ y porth arweinyddiaeth ar gyfer holl staff GIG Cymru wedi’i lansio heddiw. Mae'r adnodd digidol dwyieithog ar gael drwy unrhyw ddyfais symudol ac mae'n darparu mynediad at ystod eang o adnoddau arwain a rheoli tosturiol a guradwyd o Gronfa’r Brenin, y Brifysgol Agored a chydweithwyr ar draws cenhedloedd eraill y DU. Gallwch gyrchu porth Arweinyddiaeth Gwella yma
Mae AaGIC wedi sicrhau cytundeb gan Lywodraeth Cymru a GIG Cymru i ymgorffori ymagwedd gyfunol a thosturiol tuag at ddatblygu'r strategaeth arweinyddiaeth ar gyfer Cymru a phrosiectau cysylltiedig. Mae'r dull hwn, a ddatblygwyd gan yr Athro Michael West, Kings Fund, eisoes yn darparu'r sylfeini ar gyfer datblygu arweinyddiaeth mewn iechyd a gofal ar draws rhannau eraill o'r DU ac Iwerddon. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn gefnogol i ddull gweithredu arweinyddiaeth dosturiol a chyfunol ar gyfer datblygu strategaeth arweinyddiaeth ar gyfer iechyd a gofal.
Mae arweinyddiaeth dosturiol yn ei gwneud yn ofynnol i arweinwyr:
Mae arweinyddiaeth gyfunol yn gofyn am ffocws ar dimau, systemau a chynwysoldeb, ac fe'i hategir gan dosturi a gwella ansawdd.
Gyda'i gilydd, nid yw dulliau arwain tosturiol ac arweinyddiaeth gyfunol yn adnabod ffiniau ac maent yn berthnasol i bob arweinydd waeth beth fo'u cefndir proffesiynol.
Dengys adborth o'r cam ymgysylltu o ddatblygu strategaeth gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol cenedlaethol fod awydd am ymagwedd dosturiol a chyfunol ar gyfer arweinyddiaeth yng Nghymru. Hefyd, diwylliant o gynwysoldeb, diogelwch seicolegol a blaenoriaethu iechyd a lles y gweithlu.
Yn anad dim, mae tystiolaeth glir o'r cysylltiad rhwng y dulliau gweithredu hyn, y ffocws ar les y gweithlu ac ansawdd y gofal i gleifion.