Mae Cymdeithion Meddygol (PA) yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol cyffredinol sydd wedi'u hyfforddi'n feddygol.
Mae'r dudalen hon yn dangos sut y gall Cymdeithion Meddygol helpu i leihau rhestrau aros ac oedi mewn triniaeth drwy ryddhau meddygon i helpu cleifion mwy cymhleth. Mae gennym hefyd wybodaeth i helpu sefydliadau a thimau meddygol i baratoi i integreiddio, cefnogi a datblygu rôl y Cymdeithion Meddygol, gan eu galluogi i ymarfer i'w llawn botensial.
Mae Cymdeithion Meddygol yn ychwanegiad at dimau. Nid ydynt ar draul unrhyw aelod arall o dîm gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Maent yn gweithio ochr yn ochr â meddygon i ddarparu gofal meddygol ar draws ystod o arbenigeddau mewn practis cyffredinol, yn y gymuned ac mewn ysbytai. Mae Cymdeithion Meddygol yn gweithio gyda goruchwyliwr meddygol penodedig ond gallant hefyd weithio'n annibynnol gyda chymorth priodol.
Mae'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) yn gweithio i ddod â rolau Cymdeithion Meddygol i mewn i reoleiddio. Yn seiliedig ar amserlen y llywodraeth ar gyfer ymgynghori, mae'r GMC yn disgwyl i reoleiddio ddechrau yn ail hanner 2024 ar y cynharaf.
Mae’r astudiaethau achos hyn yn dangos bywyd o ddydd i ddydd a phrofiadau Cymdeithion Meddygol sy’n gweithio ar draws GIG Cymru. Maent yn cynnwys manylion am y meysydd gwaith, yn ogystal ag awgrymiadau ar gyfer Cymdeithion Meddygol neu fyfyrwyr eraill.