Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Addysg a Hyfforddiant (ETP)

Mae Cynllun Addysg a Hyfforddiant blynyddol Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn manylu ar yr addysg a’r hyfforddiant sydd i’w gomisiynu ar gyfer gweithlu GIG Cymru o ran gweithwyr iechyd proffesiynol ynghyd â gwybodaeth am gynllunio’r gweithlu. Mae buddsoddi mewn addysg a hyfforddiant yn allweddol i sicrhau cronfa weithlu gynaliadwy o fewn GIG Cymru. Mae’n elfen gyfrannol greiddiol i sicrhau bod gan ein partneriaid iechyd y medr a’r gallu i ddarparu gofal cleifion diogel ac o’r radd orau i bobl Cymru, sy’n canolbwyntio ar unigolion.

 

Cynllun Addysg a Hyfforddiant Blynyddol 2024-25

Lluniodd AaGIC y Cynllun Addysg a Hyfforddiant Blynyddol 2024-25 yn sgil ymgysylltu â rhanddeiliaid. Fe’i cyflwynodd i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo gan y Gweinidog ym mis Gorffennaf 2023, fel y gwelwch ar ein gwefan yma. Dros yr wythnosau dilynol ac yn wyneb yr heriau ariannol, gofynnodd Llywodraeth Cymru am sawl opsiwn ychwanegol hyd at Ionawr 2024. Cyhoeddwyd y penderfyniad terfynol gan y Gweinidog Iechyd ar 14 Chwefror 2024.

Ymrwymai cyhoeddiad Llywodraeth Cymru i gynnal y buddsoddiad mewn addysg a hyfforddiant yn gywerth â chyfradd 2023-24, sef oddeutu £283m. Mae AaGIC wedi ymroi’n helaeth i flaenoriaethu’r argymhellion gwreiddiol a nodwyd yn y Cynllun Addysg a Hyfforddiant ar gyfer 2024-25 i liniaru effaith hyn ac i barhau i wella cyfleoedd addysg a hyfforddiant mewn amryw o feysydd proffesiynol allweddol.

Mae hyn wedi cyflyru nifer o newidiadau i’r argymhellion gwreiddiol a gynhyrchwyd ym mis Gorffennaf 2023.

Ystyriwyd nifer o ffactorau pwysig wrth flaenoriaethu’r argymhellion ar gyfer Cynllun Addysg a Hyfforddiant 2024-25. Roedd hyn yn cynnwys ymateb i anghenion y gwasanaeth iechyd a chyfleoedd cyflogaeth yn ogystal â chapasiti’r system o ran cynnal hyfforddiant. Rhaid oedd hefyd anrhydeddu ymrwymiadau cynlluniau addysg a hyfforddiant blaenorol, er mwyn sicrhau bod myfyrwyr a hyfforddeion presennol yn gallu parhau i ymlynu wrth eu llwybrau addysg a hyfforddiant. Mae’r effaith ar y cynllun o ran oedi ynghylch y penderfyniad terfynol wedi'i rheoli drwy ddull sy'n seiliedig ar risg, i liniaru'r effaith ar y broses o recriwtio i raglenni addysg.

Mae’r niferoedd o ran y rhaglenni canlynol wedi’u cynnal yn gywerth â lefelau 2023-24:

  • Hyfforddiant Deintyddol Craidd, Sylfaenol ac Arbenigol, Hyfforddiant Therapi Deintyddol
  • Hyfforddiant Fferylliaeth Sylfaenol a Thechnegwyr Fferyllol
  • Hyfforddiant Meddygaeth Deulu (lefel darged = 160)
  • Nyrsio Ymarfer Cyffredinol.

Mae’n bosibl y bydd sawl maes o ran addysg israddedig gweithwyr iechyd proffesiynol yn profi twf cynyddol o ystyried niferoedd y myfyrwyr sydd wedi ymgymryd ag addysg yn 2023-24 neu y rhagddisgwylir iddynt wneud.

Mae cyfleoedd addysgol newydd ac ychwanegol ar draws y proffesiynau gan gynnwys Rhagnodi Annibynnol ar gyfer Fferyllwyr Dibrofiad yn ogystal â swyddi Hyfforddiant Meddygol Sylfaenol ac Arbenigol.

Cafwyd cynnydd o £0.5m o ran y gyllideb flynyddol er budd datblygu’r gweithlu, sy’n ffurfio cyfanswm o £5.8m. Galluoga hyn ragor o bobl i gael eu haddysgu a’u hyfforddi mewn perthynas â’r rhaglenni canlynol:

  • Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd
  • Addysg Gweithwyr Iechyd Proffesiynol Ôl-gofrestru.
  • Rhagnodi ac Awdurdodi Annibynnol ar gyfer Trallwyso Gwaed (IABT).
  • Genomeg

Byddwn yn adolygu’r broses ar gyfer y flwyddyn hon ar y cyd â Llywodraeth Cymru i sicrhau bod rhanddeiliaid yn cael eu cynnwys ar hyd y daith.

 

Mae manylion y cynllun y cytunwyd arno gyda Llywodraeth Cymru i’w gweld isod.



Cefnogi adnoddau

Mae AaGIC wedi creu adnodd Cynllun Addysg a Hyfforddiant (ETP), wedi’i gynllunio i ategu’r ddealltwriaeth o'r ETP blynyddol 2023/24. Mae'r adnodd, y gellir ei gyrchu isod, yn cwmpasu gwybodaeth am elfennau o'r ETP megis:

  • beth ydyw
  • sut a pham y caiff ei gynhyrchu
  • sut y caiff ei ddefnyddio
  • ei fanteision a’r risgiau sydd ynghlwm wrtho.

Yn bwysicach fyth, bydd yr adnodd yn egluro sut mae’r cynllun blynyddol yn elfen greiddiol o lunio cyflenwad y gweithlu gofal iechyd i’r dyfodol ar gyfer GIG Cymru. Fe'ch cynghorir i ddarllen yr adnodd hwn cyn ichi ddarllen yr ETP neu ochr yn ochr ag o.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach am yr ETP, cysylltwch â heiw.planning&performance@wales.nhs.uk.


Adnodd Cynllun Addysg a Hyfforddiant