Un o brif swyddogaethau Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yw sicrhau cyflenwad cyson o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ar gyfer GIG Cymru (mae hyn yn cynnwys yr holl weithwyr gofal iechyd proffesiynol heblaw meddygon a deintyddion sy’n cael eu hariannu’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru).
Mae contractio a chomisiynu addysg yn cynnwys dwy elfen:
Mae AaGIC yn contractio â’r sector addysg uwch yn bennaf i ddarparu hyfforddiant gofal iechyd israddedig ac ôl-raddedig.
Fel y comisiynydd addysg at gyfer gweithlu anfeddygol GIG Cymru, mae AaGIC yn cynghori Llywodraeth Cymru bob blwyddyn ar nifer y lleoedd hyfforddi gofal iechyd fydd eu hangen i ateb y galw ar gyfer gweithlu GIG Cymru yn awr ac yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys addysg broffesiynol israddedig ac ôl-raddedig.