Neidio i'r prif gynnwy

Comisiynu

Y broses comisiynu addysg

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn defnyddio cynlluniau’r gweithlu a gynhyrchir gan sefydliadau’r GIG i benderfynu sawl lle hyfforddi sydd ei angen bob blwyddyn i ddiwallu anghenion y gweithlu gofal iechyd proffesiynol anfeddygol.

Mae angen rhwng dwy a saith mlynedd i hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Mae niferoedd y lleoedd hyn, ynghyd â dadansoddiad a thystiolaeth o’r gweithlu, yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd bob blwyddyn i gael eu cymeradwyo. Mae Llywodraeth Cymru’n ystyried yr argymhellion hyn ac yn rhoi set derfynol o’r niferoedd sydd i’w hyfforddi a chyllideb yn ôl i AaGIC, sydd wedyn yn contractio â’r sector addysg i ddarparu’r hyfforddiant. Mae’r niferoedd fel arfer yn cael eu cadarnhau ym mis Chwefror, ar gyfer derbyniadau’r mis Medi hwnnw.

Rôl contractio addysg

Mae’r gyllideb tua £125 miliwn y flwyddyn. Mae tua hanner hyn yn ariannu bwrsariaethau, cyflogau, treuliau a lwfansau i fyfyrwyr. Mae gweddill y gyllideb yn ariannu’r cyrsiau prifysgol. Mae AaGIC yn negodi ffi y pen ar gyfer pob myfyriwr ar bob rhaglen. Ein nod yw cael addysg o ansawdd uchel sy’n rhoi gwerth da am arian i’r GIG, ac sydd hefyd yn cefnogi ein partneriaid addysg.

Yn ogystal ag ystyried y prisiau a delir gennym, rydym yn edrych ar ddangosyddion perfformiad allweddol (e.e. nifer ac ansawdd ymgeiswyr a’r gyfradd ymadael o raglenni), drwy gyfres o gyfarfodydd contractio drwy gydol y flwyddyn.

Sut mae GIG Cymru’n elwa?

Mae dau brif fudd i GIG Cymru. Yn gyntaf, drwy reoli’r niferoedd sy’n mynd drwy hyfforddiant proffesiynol, mae AaGIC yn gallu paru’r allbwn o hyfforddiant iechyd proffesiynol â nifer y swyddi sydd ar gael. Nid yw o fudd y GIG na’r coffrau cyhoeddus i hyfforddi gweithwyr iechyd proffesiynol a chanfod wedyn na ellir defnyddio eu sgiliau a’u gwybodaeth.

Yn ail, mae addysg a hyfforddiant ôl-gofrestru yn galluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol presennol i ddatblygu eu gyrfaoedd drwy ymgymryd â hyfforddiant arbenigol i ddarparu gwell gwasanaethau i gleifion.

Yn drydydd, fel sefydliad y GIG sy’n delio’n uniongyrchol â phrifysgolion, mae AaGIC yn gallu sicrhau bod y gyllideb yn cael ei defnyddio’n effeithlon. Rydym yn gallu dangos hyn drwy gynnal y niferoedd sy’n cael eu hyfforddi ar adeg o gyfyngiadau ariannol.