Neidio i'r prif gynnwy

Dyletswydd Gonestrwydd

Dylai bod yn agored ac yn onest fod wrth wraidd pob perthynas rhwng y rhai sy'n darparu triniaeth a gofal a'r rhai sy'n ei dderbyn.

Yn y GIG, rydym yn ymdrechu i ddarparu gofal diogel a thosturiol o ansawdd uchel i bob un o ddefnyddwyr ein gwasanaethau. Fodd bynnag, hyd yn oed pan fyddwn yn gwneud ein gorau, gall pobl brofi niwed weithiau. Dyna pam mae’r Ddyletswydd Gonestrwydd gennym.

Ein nod yw creu diwylliant o ymddiriedaeth a bod yn agored, fel y gallwch deimlo'n hyderus yn y gofal a gewch gennym.

Mae’r Ddyletswydd Gonestrwydd yn ofyniad cyfreithiol i Sefydliadau GIG Cymru fod yn agored ac yn onest gyda’r defnyddwyr gwasanaethau sy’n derbyn gofal a thriniaeth. Amlinellir hyn yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020.

Mae’r Ddyletswydd Gonestrwydd yn berthnasol os yw’r gofal a ddarparwn wedi, neu y gallai fod wedi cyfrannu at niwed cymedrol neu ddifrifol annisgwyl neu anfwriadol, neu farwolaeth.

Nid oes angen i chi gysylltu â ni ynglŷn â Dyletswydd Gonestrwydd. Byddwn yn cysylltu â chi os yw’r Ddyletswydd Gonestrwydd yn berthnasol i'ch gofal a'ch triniaeth. 

 

Beth allwch chi ei ddisgwyl?

Dyma grynodeb o’r Weithdrefn Dyletswydd Gonestrwydd y bydd y GIG yn ei dilyn:

  • Wrth ddod yn ymwybodol yn gyntaf bod y ddyletswydd gonestrwydd yn berthnasol, rhaid i'r GIG hysbysu'r defnyddiwr gwasanaeth neu berson sy'n gweithredu ar ei ran. Dylai'r cyswllt hwn fod 'yn bersonol', sy'n golygu dros y ffôn, galwad fideo neu wyneb yn wyneb.

  • Pwrpas yr hysbysiad ‘yn bersonol’ yw cynnig ymddiheuriad, rhoi esboniad o’r hyn sy’n hysbys bryd hynny, cynnig cymorth, egluro’r camau nesaf a darparu manylion pwynt cyswllt.

  • Anfonir llythyr at y defnyddiwr gwasanaeth neu'r person sy'n gweithredu ar ei ran o fewn pum diwrnod gwaith, yn cadarnhau'r hyn a ddywedwyd yn yr hysbysiad 'yn bersonol'.

  • Bydd y GIG yn cynnal ymchwiliad i ddarganfod beth ddigwyddodd a pham, a sut y gallwn ei atal rhag digwydd eto.

  • Bydd hyn yn digwydd yn unol â Gweithdrefn 'Gweithio i Wella' GIG Cymru.

  • Bydd y pwynt cyswllt a enwir a ddarperir fel rhan o'r weithdrefn Dyletswydd Gonestrwydd yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am y broses hon a'r hyn sy'n digwydd nesaf.

Os nad ydych am i ni gysylltu â chi, neu os byddai’n well gennych i rywun weithredu ar eich rhan, rhowch wybod i ni a byddwn yn gwneud y trefniadau angenrheidiol.

Ymddiheuriad

Mae gwneud ymddiheuriad ystyrlon yn rhan bwysig o'r Weithdrefn Dyletswydd Gonestrwydd.

Mae ymddiheuriad yn fynegiant o dristwch neu ofid am y niwed a brofwyd. Fodd bynnag, nid derbyn bai nac atebolrwydd cyfreithiol yw ymddiheuriad.

Cefnogaeth pellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, angen rhagor o wybodaeth, neu os hoffech arweiniad, ewch i'n gwefan neu cysylltwch â'r sefydliad lle cawsoch eich gofal.

Mae rhagor o wybodaeth gan gynnwys manylion cyswllt sefydliadau’r GIG yng Nghymru ar gael oddi wrth:
www.llyw.cymru/dyletswyddgonestrwydd

Mwy o wybodaeth am Dddyletswydd Gonestrwydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru

Dyletswydd Gonestrwydd - Easy Read