Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfodydd bwrdd a phwyllgor

Rydym yn cynnal cyfarfodydd bwrdd bob dau fis y mae croeso i unrhyw un eu mynychu.

Gellir cysylltu ag Ysgrifennydd y Bwrdd, Dafydd Bebb, drwy heiw@wales.nhs.uk neu drwy ffonio 03300 585005.

Neidio i:

 

Cyfarfodydd bwrdd cyhoeddus:

Dyddiad Amser bras Manylion
Dydd Iau 28 Tachwedd 10:00 Manylion yn dod yn fuan.

Mae recordiadau o'n cyfarfodydd bwrdd i'w gweld ar YouTube.

 

 


Cyfarfodydd y pwyllgor archwilio a sicrwydd:

Cylch gorchwyl y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd.

Dyddiad Amser Manylion
Dydd Iau 10 Hydref 2024 10:30

Dilynwch y ddolen hon i gofrestru ar gyfer Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd ar 10 Hydref 2024:

 

Wrth ichi ymuno â'r weminar, bydd gofyn i chi nodi’ch iaith ddewisol. Y Gymraeg yw’r iaith ffynhonnell ar gyfer y cyfarfodydd hyn i’w chyfieithu i’r Saesneg, sef yr iaith darged. Os ydych chi’n awyddus i wrando ar y cyfarfod cyfan drwy gyfrwng y Saesneg, nodwch ‘Saesneg’. Os hoffech glywed rhannau o'r cyfarfod yn cael eu traddodi drwy gyfrwng y Gymraeg, nodwch ‘Original Audio’. Os nad yw’r opsiwn i nodi’ch iaith ddewisol yn weladwy, gallwch addasu hyn yn y gosodiadau gan ddefnyddio'r camau isod:

 

• Cliciwch ar y tri dot â’r geiriad ‘more’ ar y faner uchaf

• Dewiswch ‘Language and Speech’

• Dewiswch ‘Language Interpretation’

• Dan yr opsiwn ‘Listen to’ gallwch ddewis ‘Original Audio’ (Cymraeg) neu Saesneg

• Cliciwch ar ‘confirm’

Gellir gweld recordiadau o'n cyfarfodydd pwyllgor archwilio a sicrwydd ar YouTube.

 

 


Cyfarfodydd pwyllgor addysg, comisiynu ac ansawdd:

Cylch gorchwyl y pwyllgor addysg, comisiynu ac ansawdd.

Dyddiad Amser Manylion
Dydd Iau 14 Tachwedd 2024     10:00 Manylion yn dod yn fuan.

Mae recordiadau o'n cyfarfodydd pwyllgor addysg, comisiynu ac ansawdd i'w gweld ar YouTube.

 

 


Papurau rheolau sefydlog

Rheolau Sefydlog


Rydym wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw. Er mwyn gwneud hyn rydym yn cynnal cymaint o’n busnes â phosibl mewn ffordd y mae croeso i’r cyhoedd ei mynychu a’i harsylwi. Byddwn yn ffrydio ein cyfarfodydd bwrdd a phwyllgor yn fyw trwy 'Zoom'. Bydd manylion ar gael ar y dudalen hon cyn y cyfarfod.