Mae’r Cynllun Gweithlu Deintyddol Strategol wedi’i ddatblygu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru mewn partneriaeth â’r rhaglen strategol ar gyfer gofal sylfaenol, gweithwyr deintyddol proffesiynol a rhanddeiliaid allweddol. Caiff ei lywio gan y camau gweithredu yn ymateb gwasanaethau iechyd y geg a deintyddol i 'Cymru Iachach'. Mae'n gydymaith i'r Cynllun Gweithlu Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol ac mae llawer o'r camau gweithredu yn deillio o'r ddau gynllun.
Bydd y cynllun yn llywio atebion cynaliadwy ar gyfer gweithlu deintyddol y dyfodol yng Nghymru. Mae’n canolbwyntio ar Wasanaethau Deintyddol Cyffredinol, ond bydd y camau gweithredu a’r argymhellion yn cyfrannu at ac yn gwella’r ffordd yr ydym yn datblygu, yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi’r gweithlu deintyddol ar draws y system gyfan.
Adnoddau
Gallwch gymryd rhan yn y sgyrsiau sydd eu hangen i lunio'r cynllun drwy e-bostio heiw.dentalworkforceplan@wales.nhs.uk