Neidio i'r prif gynnwy

Cyfathrebu ac ymgysylltu

Fel sefydliad Cymru gyfan, gyda sawl swyddogaeth strategol, rydym yn gweld bod cyfathrebu ac ymgysylltu â’n partneriaid a’n rhanddeiliaid yn Gymraeg a Saesneg yn rhan hynod bwysig o’r hyn a wnawn.

Mae gweithio gyda’n gilydd, deall anghenion ein gilydd a’r ffordd orau o gefnogi ein gilydd yn hollbwysig os ydym am lwyddo’n unigol ac fel cyfundrefn.

I gyflawni hyn, rydym wedi ymrwymo i gydweithio, cyfathrebu, ymgysylltu a gweithio'n agos gyda'n partneriaid a'n rhanddeiliaid. Mae hyn yn cynnwys:

  • hyfforddeion a myfyrwyr
  • GIG Cymru
  • Gofal Cymdeithasol Cymru
  • darparwyr addysg
  • rheolyddion
  • y sector preifat (busnes, cyflenwyr)
  • cyrff proffesiynol 
  • ytrydydd sector
  • Llywodraeth Cymru
  • y cyhoedd
  • a’r cyfryngau ymhlith eraill.

Mae rhagor o wybodaeth am ein hymrwymiad i gyfathrebu ac ymgysylltu ar gael yn ein strategaeth cyfathrebu ac ymgysylltu - sy’n cael ei hadolygu’r haf hwn, ac amcan 6 ein Cynllun Tymor Canolig Integredig (IMTP).

Fel sefydliad ac aelodau unigol o AaGIC, rydym yn cyfathrebu ac yn ymgysylltu drwy nifer o sianeli a dulliau - dyma rai ohonynt yn unig isod.

 

Os hoffech ymuno â'n rhestr bostio, anfonwch e-bost at HEIW.cyfathrebu@cymru.nhs.uk. Gallwch hefyd anfon e-bost atom unrhyw bryd i dynnu eich enw oddi ar y rhestr.