Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun gweithlu amenedigol strategol

Mae Addysg ac Arloesi Iechyd Cymru (AaGIC) yn arwain y gwaith o ddatblygu’r Cynllun Gweithlu Amenedigol Strategol, i recriwtio, cadw, hyfforddi a thrawsnewid y gweithlu amenedigol presennol ac yn y dyfodol yn GIG Cymru.

Fel rhan o Sgwrs Mamolaeth a Newyddenedigol Cymru, rydym hefyd wedi cael mewnwelediad gan ddefnyddwyr gwasanaethau amenedigol drwy ddadansoddi Data Profiad y Claf yn thermatig o tua 1600 o ymatebion o bob rhan o Gymru. Bydd y dadansoddiad hwn yn helpu i lywio’r cynllun fel rhan o’r dull piler coed ac yn ein helpu i ddeall yn well yr heriau a wynebir gan y tîm amlddisgyblaethol yn y Gwasanaethau Amenedigol.

 

Camau nesaf

Rydym yn parhau i gynnal dadansoddiad manwl gan ddilyn dull tri philer o’r llenyddiaeth. Y rhain yw: ymchwil ac arfer da, data a dadansoddeg, a’r ymgysylltu diweddar â’r gweithlu er mwyn cynhyrchu set o gamau gweithredu drafft. Unwaith y bydd wedi'i chynhyrchu, bydd AaGIC yn ymgynghori â'r gweithlu trwy gyfres o weminarau a ffurflen adborth MS i sicrhau bod anghenion y Gwasanaethau Amenedigol yn cael eu diwallu orau.

Bydd ymgynghoriad ar y camau gweithredu drafft yn y Cynllun Gweithlu Amenedigol Strategol yn dechrau’n fuan. Rhagor o fanylion i ddilyn, gwyliwch y man hyn!

I gael rhagor o wybodaeth e-bostiwch HEIW.PerinatalWorkforcePlan@wales.nhs.uk