Mae gan GIG Cymru ôl troed carbon o tua 1.00MTC02e, yr ail yn unig i awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae hyn yn cyfateb i ddefnydd ynni bron i 126,000 o gartrefi am flwyddyn gyfan!
Mae ein cynllun gweithredu cynaliadwyedd yn cael ei ddatblygu. Mae'n tynnu sylw at y camau y gallwn eu cymryd yn AaGIC i leihau hyn, fel y gallwn gyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o sector cyhoeddus sero net erbyn 2030.
Mae'r cynllun hwn yn edrych i:
Drwy fabwysiadu arferion cynaliadwy, gallwn leihau ein heffaith ar yr amgylchedd, cadw adnoddau naturiol a hyrwyddo tegwch cymdeithasol ac economaidd.
Mae gennym sefyllfa unigryw fel AaGIC, i ddarparu addysg a hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol mewn ffordd sy'n eu hannog i gwestiynu arferion er mwyn dod o hyd i'r dulliau mwyaf cynaliadwy o ddarparu gofal iechyd nawr, ac yn y dyfodol.
Ar ddiwedd 2022/23, comisiynwyd cyflenwr allanol gennym i gynnal ymarfer ôl troed carbon manwl ar gyfer AaGIC ac i wneud argymhellion i’n helpu i wella ein hôl troed carbon yn y dyfodol.
Dangosodd yr adroddiad fod ein mannau problemus o ran garbon ym maes caffael, cymudo staff a digwyddiadau.
Rydym wedi adnewyddu ein Cynllun Gweithredu Cynaliadwyedd ar gyfer eleni i ganolbwyntio ar y mannau problemus hyn a disgwyliwn barhau â’r ffocws hwn yn ein cynllun ar gyfer 2024/25.
Os oes gennych unrhyw adborth neu os hoffech gymryd rhan, ymunwch â Grwp Gwyrdd AaGIC neu cysylltwch â HEIW.Planning&Performance@wales.nhs.uk.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler y tudalennau Gweithredu Hinsawdd a Helpu'r GIG i fynd yn wyrdd ar ein gwefan.
Beth yw gofal iechyd cynaliadwy? Gyda Dr Kathryn Speedy
Cynaliadwyedd amgylcheddol yn y practis deintyddol
Rydym yn rhan o'r rhwydwaith o Grwpiau Gwyrdd ar draws byrddau iechyd GIG Cymru.