Pam fyddech chi eisiau gweithio i AaGIC?
Dyma 5 o'r nifer o resymau gwych dros weithio i AaGIC:
- Mae'n ddewis swydd gwerth chweil gyda chyfleoedd anhygoel!
Tydi’r GIG ddim yn unig am Feddygon a Nyrsys Rydym yn dîm amlddisgyblaethol sy'n dod o bob rhan o'r proffesiynau iechyd a gofal cymdeithasol, cyllid, digidol, rheoli rhaglenni a phrosiectau, cyfathrebu, marchnata, adnoddau dynol a rheoli cyfleusterau.
Edrychwch ar y swyddi gwag yr ydym wedi'u hysbysebu ar hyn o bryd. Efallai y byddwch chi'n synnu.
- Byddwn yn eich helpu i gyflawni eich nod gyrfa
Mae yn ein henw ni — Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Gydag adolygiad datblygiad personol blynyddol a chyfleoedd hyfforddi/dysgu a datblygu eang, byddwn yn cefnogi eich dyheadau gyrfaol.
- Eisiau hyn i gyd? Boddhad swydd a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith?
Os nad oedd dros 5 wythnos o wyliau, yn cynyddu gyda gwasanaeth, yn ogystal â Gwyliau Banc, yn ddigon gallwch hefyd brynu gwyliau ychwanegol. 37.5 awr yw ein hwythnos waith safonol, ond gall y rhain fod yn berthnasol yn hyblyg rhwng 7am a 7pm ac mae gennym amrywiaeth enfawr o opsiynau rhan-amser /sesiynol ar gael hefyd. Mae ein technoleg wych yn caniatáu gweithio'r un mor effeithlon o'r cartref a'r swyddfa.
- Fel un o weithwyr AaGIC a GIG Cymru, mae eich barn yn bwysig
Rydym yn ymgynghori â'n pobl fel rhan o brosesau gwneud penderfyniadau drwy eu gwahodd i gymryd rhan mewn arolygon staff, ond rydym hefyd yn disgwyl i chi godi llais, rhoi barn, cymhwyso eich gwybodaeth, herio ac arloesi bob dydd. Rydym yn annog ymgysylltu trwy Fforymau Agored Staff rheolaidd; Rhwydweithiau Iechyd a Lles a Grŵp Cymdeithasol Staff gweithredol.
- Mae'n lle gwych i fod
Mae'n debyg y byddwch wedi'ch lleoli yn Nhŷ Dysgu, adeilad modern, cynllun agored gyda thechnoleg wych, man cyfarfod amlbwrpas, cysylltiadau da â'r rhwydwaith ffyrdd mawr y tu allan i Gaerdydd a pharcio am ddim. Ond, yn bwysicach fyth, oherwydd ein bod ni'n dod â phobl broffesiynol o'r un anian at ei gilydd, byddwch chi bob amser mewn cwmni da. Mae yna dipyn o wefr pan fyddwch chi'n cerdded drwy’r drysau.
Buddion
Fe gewch chi lwyth o fanteision a dyma rai ohonyn nhw:
- Cyflog a ddiffinnir yn genedlaethol gyda chynyddiadau cyflog cynyddrannol yn dibynnu ar wasanaeth,
- Wythnos waith safonol 37.5 awr, ond llawer o hyblygrwydd,
- 28 diwrnod o wyliau sy'n cynyddu gyda gwasanaeth, yn ogystal â gwyliau banc,
- Un o'r Cynlluniau Pensiwn mwyaf hael a chynhwysfawr yn y DU,
- Gostyngiadau'r GIG, ynghyd â chynllun beicio i'r gwaith
- Gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chwnsela, ynghyd ag adnoddau iechyd a lles amrywiol a hygyrch, a chynllun gofal llygaid.
Mae gan ein cydweithwyr ym maes gofal cymdeithasol nifer o gyfleoedd gyrfa ar gael ledled Cymru hefyd.