Neidio i'r prif gynnwy

Rheoli ansawdd

Stars on top of stairs

Ni yw Uned Ansawdd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). Rydym yn dîm o unigolion ymroddedig sydd wedi ymrwymo i sicrhau y darperir gofal rhagorol i gleifion trwy fonitro a datblygu addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel.

Rydym yn gweithio'n agos gyda thimau Rhaglen Hyfforddiant Sylfaen ac Arbenigol a darparwyr addysg lleol (LEP) ledled GIG Cymru. Rydym hefyd yn gweithio gyda rhanddeiliaid mewn deoniaethau a Byrddau Addysg a Hyfforddiant lleol ledled y DU i fonitro ansawdd rhaglenni sy'n cynnwys lleoliadau ar gyfer hyfforddeion o Gymru i sicrhau bod hyfforddiant meddygol yn cwrdd â safonau'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC).

Rydym yn defnyddio fframwaith rheoli ansawdd yn seiliedig ar risg sy'n cynnwys prosesau arferol ac ymatebol, mae'r Uned yn sicrhau pan nad yw hyfforddiant yn cwrdd â safonau cenedlaethol (GMC) a lleol bod newidiadau yn cael eu hwyluso a'u gweithredu i wella ansawdd. Yn ogystal, rydym hefyd yn ceisio rhannu arfer gorau i yrru gwelliant ledled Cymru.

Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud

Ni yw Uned Ansawdd AaGIC. Rydym yn dîm o unigolion ymroddedig sydd wedi ymrwymo i sicrhau y darperir gofal rhagorol i gleifion trwy fonitro a datblygu addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel.

Rydym yn gweithio'n agos gyda thimau Rhaglen Hyfforddiant Sylfaen ac Arbenigol a darparwyr addysg lleol (LEP) ledled GIG Cymru. Rydym hefyd yn gweithio gyda rhanddeiliaid mewn deoniaethau a Byrddau Addysg a Hyfforddiant lleol ledled y DU i fonitro ansawdd rhaglenni sy'n cynnwys lleoliadau ar gyfer hyfforddeion o Gymru i sicrhau bod hyfforddiant meddygol yn cwrdd â safonau'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC).

Rydym yn defnyddio fframwaith rheoli ansawdd ar sail risg sy'n cynnwys prosesau arferol ac ymatebol, mae'r uned yn sicrhau pan nad yw hyfforddiant yn cwrdd â safonau cenedlaethol (GMC) a lleol bod newidiadau yn cael eu hwyluso a'u gweithredu i wella ansawdd. Yn ogystal, rydym hefyd yn ceisio rhannu arfer gorau i yrru gwelliant ledled Cymru.