Neidio i'r prif gynnwy

Dod yn Gynrychiolwr lleyg

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn recriwtio nifer o gynrychiolwyr lleyg i gefnogi rheolaeth ansawdd hyfforddiant meddygol a deintyddol a sicrhau bod llais defnyddwyr gwasanaeth yn cael ei glywed ac i sicrhau allanoldeb yn ein prosesau wrth hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Fel cynrychiolydd lleyg byddech yn ymwneud â recriwtio meddygon a deintyddion i raglenni hyfforddi, ac yn cyfrannu at y timau sy'n gyfrifol am asesu eu cynnydd trwy hyfforddiant.

Ni ddylai fod gennych gefndir clinigol na chefndir yn y proffesiynau iechyd ac ni ddylech fod yn gweithio i'r GIG ar adeg gwneud cais nac wedi gwneud hynny o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf.

Faint o amser sydd ei angen ar gyfer y rôl?

Mae'r swydd yn cynnig oddeutu deg diwrnod o waith y flwyddyn ac mae i'w benodi am gyfnod o flwyddyn i ddechrau.

Ble fydd gofyn i mi weithio?

Bydd gofyn i gynrychiolwyr lleyg weithio'n hyblyg a bod â'r gallu i deithio i leoliadau ledled Cymru i gymryd rhan mewn gweithgareddau AaGIC.

Faint fydd yn cael ei dalu?

Gwneir taliad y diwrnod cyfan ar gyfradd o £80.50 neu bob hanner diwrnod ar gyfradd o £40.25 y digwyddiad. Telir costau teithio a chynhaliaeth rhesymol hefyd.

Swyddi gwag cynrychioladol lleyg cyfredol

Nid ydym yn recriwtio Cynrychiolwyr Lleyg ar hyn o bryd ond fe allwch gysylltu â QA AaGIC gyda mynegiant o ddiddordeb a gallwn gysylltu â chi pan fydd ein cylch recriwtio nesaf yn dechrau.

Mae'r disgrifydd rôl a'r ffurflen gais i'w gweld isod. Dychwelwch eich cais i QA AaGIC a chysylltwch â ni yn y cyfeiriad hwn hefyd os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth i gynrychiolwyr lleyg presennol ar y dudalen gwybodaeth ar gyfer cynrychiolwyr lleyg presennol.