Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi.
I gyflwyno cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, e-bostiwch heiw.foi@wales.nhs.uk neu anfonwch lythyr at Tîm y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, AaGIC, Ty Dysgu, Cefn Coed, Nantgarw, CF15 7QQ
Mae ein tîm cyfathrebu ac ymgysylltu yn delio â phob ymholiad yn y wasg a'r cyfryngau ar gyfer AaGIC. Os ydych chi'n aelod o'r wasg a'r cyfryngau a bod gennych ymholiad, cysylltwch â'r tîm cyfathrebu ac ymgysylltu yn uniongyrchol (ac nid ein staff).
Manylion cyswllt tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu AaGIC
E-bost cyffredinol: heiw.communications@wales.nhs.uk neu drwy'r dderbynfa ar 03300 585 005
Angharad Price, Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu: 01443 846357 neu 07773 598993 or angharad.price@wales.nhs.uk
Helen Cade, Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu: 01443 824182 neu 07971 300562 or helen.cade@wales.nhs.uk
Oriau agor
Mae'r swyddfa gyfathrebu ar agor rhwng 8:30 a 16:30, ddydd Llun i ddydd Gwener. Bydd ymholiadau cyffredinol a dderbynnir gan y cyfryngau y tu allan i oriau yn cael eu gweithredu gan y tîm ar y diwrnod gwaith nesaf.
Dylai'r sawl sy'n gwneud y Gŵyn Ffurfiol, neu ei gynrychiolydd, hysbysu'r Prif Weithredwr drwy e-bost o dan y pennawd ' Cwyn Ffurfiol' i heiw.complaints@wales.nhs.uk neu'n ysgrifenedig i'r Prif Weithredwr, yn Nhŷ Dysgu, Nantgarw, CF15 7QQ.
Er mwyn cynorthwyo AaGIC i ymateb i'r Gŵyn cyn gynted â phosibl, dylai gynnwys y wybodaeth ganlynol:
Bydd yr achwynydd yn derbyn cydnabyddiaeth o'i Gŵyn o fewn dau ddiwrnod gwaith ar ôl iddo gael ei dderbyn gan AaGIC.
Rhaid gwneud y Gŵyn, o fewn tri mis i'r digwyddiad y cwynir yn ei gylch.
Bydd AaGIC yn derbyn cwynion gan gynrychiolwyr person sy'n gwneud Cwyn. Mae hyn yn amodol ar i ni gael cadarnhad ysgrifenedig yn gyntaf bod y person sy'n gwneud y Gŵyn wedi penodi cynrychiolydd i weithredu ar ei ran yn y mater.