Neidio i'r prif gynnwy

Fferyllfa

Dau fferyllydd yn astudio

Mae Deoniaeth Fferylliaeth Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn hybu addysg a hyfforddiant cyn ac ôl-gofrestru ar gyfer yr holl weithlu fferyllol yng Nghymru.

Mae’r Ddeoniaeth yn dylunio, datblygu, sicrhau ansawdd, yn cynllunio ac yn gweithredu addysg broffesiynol fferyllol ledled Cymru gan gefnogi diwylliant dysgu gydol oes, o gyn-gofrestru i ôl-gofrestru. Mae’r meysydd gwaith yn cynnwys technegwyr fferyllol cyn-gofrestru, fferyllwyr sylfaen cyn-gofrestru, ymarfer sydd newydd gofrestru, datblygiad proffesiynol parhaus, DPP+, ymarfer uwch ac estynedig, cynllunio’r gweithlu ac ymarfer ymgynghorwyr.

Mae ein gweithgarwch yn cael ei ategu gan ymchwil addysgol briodol, gwerthuso, adborth dysgwyr a gwelliant parhaus ac arloesi. Mae’r dulliau hyn yn hybu ansawdd ein hadnoddau addysgol a’n rhaglenni dysgu i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion y gweithlu fferyllol i’w cynorthwyo yn eu gofal i gleifion ledled Cymru.

Mae’r Ddeoniaeth hefyd yn dylanwadu ar ac yn trosi blaenoriaethau polisi’r DU a Chymru drwy gydweithio clos â Llywodraeth Cymru, y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, Cymdeithas Technegwyr Fferyllol y DU, y Cyngor Fferyllol Cyffredinol a deoniaid fferyllol yn y cenhedloedd datganoledig.

Mae modd archebu’r holl gyrsiau DPP a ddarperir gan y ddeoniaeth drwy system archebu cyrsiau ar-lein yr adran. Mae hyn yn galluogi gweithwyr proffesiynol i reoli eu harchebion eu hunain. I gofrestru ar gyfer ein gwefan dilynwch y ddolen hon a dilynwch y cyfarwyddiadau cofrestru.

Ein Rhaglenni Hyfforddi

  • Hyfforddiant technegwyr fferyllol cyn-gofrestru
  • Hyfforddiant Fferyllwyr sylfaen cyn-gofrestru
  • Rhaglen Lleoliadau Fferyllol Israddedig wedi’u Hariannu (FPUPP)
  • Ymarfer nwydd ei gofrestru 
  • DPP
  • DPP+
  • Ymarfer Uwch 
  • Ymarfer Ymgynghorol 

Ein Hadnoddau Dysgu

Mae’r Ddeoniaeth Fferylliaeth yn cynnig llyfrgell o adnoddau dysgu gan gynnwys rhaglenni e-ddysgu, gweminarau, podlediadau, digwyddiadau astudio, ystafelloedd dosbarth rhithiol - cofrestrwch yma i gael cyfrif.

A oes gennych chi gyfrif eisoes? Gwnewch yn siŵr bod eich manylion yn gywir fel y gallwn eich diweddaru â’n holl gyfleoedd dysgu.