Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Lleoliadau Fferyllol Israddedig wedi'u Hariannu (FPUPP)

Mae'r Rhaglen Lleoliadau Fferyllol Israddedig wedi’u Hariannu (FPUPP) yn darparu profiadau clinigol i fyfyrwyr fferylliaeth israddedig sy'n astudio yng Nghymru.

 

Golwg Gyffredinol o'r FPUPP

  • Amcan: darparu cyfleoedd dysgu a chymorth rhagorol yn unol â safonau diwygiedig y Cyngor Fferyllol Cyffredinol (CFfC) ar gyfer yr addysg a hyfforddiant gychwynnol i fferyllwyr (IETP). Mae'r rhaglen hon yn cael ei chynnal mewn partneriaeth gan AaGIC, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe.
  • Lleoliadau: cynigir lleoliadau clinigol mewn gwahanol sectorau ledled Cymru, gan gynnwys fferyllfeydd cymunedol, meddygfeydd ac ysbytai. Mae nifer y lleoliadau clinigol yn cynyddu trwy gydol y radd MPharm, i gyfanswm o 55 diwrnod fesul myfyriwr yn dechrau ym mis Awst 2025.
  • Rolau a chyfrifoldebau: mae cydweithio rhwng AaGIC a'r Sefydliadau Addysg Uwch (SAUau) yn sicrhau bod myfyrwyr fferylliaeth yn gweithio tuag at y canlyniadau dysgu IETP CFfC mewn safleoedd hyfforddi â sicrwydd ansawdd. Mae'r sefydliadau cynnal yn darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu drwy brofiad, ynghyd â chefnogaeth ac adborth i fyfyrwyr fferylliaeth, ac ymrwymiad i fframwaith rheoli ansawdd AaGIC. 
  • Goruchwyliwr lleoliad: caiff myfyrwyr eu cynorthwyo gan oruchwyliwr lleoliad yn y sefydliad cynnal. Maent yn gyfrifol am brofiad lleoliad clinigol cyffredinol y myfyriwr.
  • Cyllid: Llywodraeth Cymru sy'n darparu'r cyllid. Bydd safleoedd cynnal yn derbyn £120 y dydd, fesul myfyriwr.
  • Myfyrwyr 'parod i ragnodi': o 2026, bydd pob fferyllydd sylfaen yn dod yn ragnodwyr annibynnol wrth ymuno â'r gofrestr CFfC os yw gofynion hyfforddi wedi'u bodloni. Mae FPUPP yn darparu profiadau clinigol i fyfyrwyr i hwyluso'r newid hwn yn ddiogel.

Bydd y broses datganiad o ddiddordeb (EOI) flynyddol yn ail-agor ym mis Ebrill 2024. Amlinellir y broses ddiwygiedig isod:

Byddwn yn cysylltu â phob fferyllfa gymunedol, practis meddyg teulu a Bwrdd Iechyd yn y Gwanwyn i gychwyn y broses EOI ar gyfer 2024/25. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y rhaglen FPUPP a’ch bod yn gweithio i sefydliad fferylliaeth gymunedol luosog, rydym yn eich cynghori i gysylltu â’ch tîm rheoli canolog cyn cyflwyno EOI.

Taflen EOI

Bydd yr SAUau yn ceisio dyrannu myfyrwyr i safleoedd â sicrwydd ansawdd ledled Cymru. Fodd bynnag, ni all SAUau warantu y bydd pob safle yn derbyn myfyrwyr.

Nac oes.

Bydd unrhyw weithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig sydd â sgiliau clinigol perthnasol a gwybodaeth am y gofynion hyfforddi ar gyfer fferyllwyr yn cael ei ystyried ar gyfer y rôl. 

Darperir hyfforddiant blynyddol i bob goruchwyliwr lleoliad, gan gynnwys llawlyfr goruchwyliwr lleoliad. Bydd myfyrwyr yn derbyn llawlyfr myfyrwyr i weithio drwyddo yn ystod eu lleoliadau.

Mae'r safonau IETP yn cynnwys 55 o ddeilliannau dysgu, y mae'n rhaid i bob un ohonynt gael eu cyflawni erbyn diwedd hyfforddiant sylfaen fferyllwyr dan hyfforddiant. Fodd bynnag, rhaid dangos 16 o'r deilliannau dysgu hyn ar lefel 'Cyflawni' triongl Miller erbyn diwedd gradd MPharm myfyriwr. Mae'r FPUPP yn cynorthwyo myfyrwyr i gyflawni'r 16 ddeilliannau dysgu hyn trwy leoliadau dysgu drwy brofiad.

Caiff sefydliadau cynnal eu talu'n uniongyrchol gan yr SAUau a rhaid iddynt anfonebu'r SAU yn uniongyrchol am dâl, gan ddilyn canllawiau CThEM.

Ar gyfer sylwadau neu gwestiynau, cysylltwch â HEIW.FPUPP@wales.nhs.uk