Neidio i'r prif gynnwy

Fferyllwyr practis sydd newydd gofrestru

Fferyllydd yn gwenu

Mae hyfforddiant Newydd Gofrestru’n arwain at ystod eang o brofiadau a sgiliau i osod sylfaen gadarn ar gyfer datblygiad gweithwyr fferyllol proffesiynol yn y dyfodol, ar ôl iddynt gofrestru.

Mae wedi’i gynllunio i helpu gweithwyr fferyllol proffesiynol i ddatblygu sgiliau’n gynnar yn eu gyrfa i ddarparu gofal mwy cymhleth i gleifion, fel rhan o dîm amlbroffesiwn ac i gynyddu hyder mewn rolau newydd fel ymarferwyr newydd. Mae’n arwain at lywodraethu a sicrwydd o ymarfer diogel a chymwys ac mae’n galluogi hyfforddiant safonol i gael ei ddarparu mewn ystod o leoliadau clinigol.

Ar hyn o bryd mae gan y DU boblogaeth sy’n amrywiol ac yn cynyddu ac mae hynny’n golygu angen am newid yn y meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, i ateb galw a’r disgwyliadau o barhad mewn gofal o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar y claf. Mae hyfforddiant Newydd Gofrestru yn helpu’r gweithlu fferyllol i gyrraedd y disgwyliadau hyn wrth iddynt newid a’r angen i ddarparu mwy o wasanaethau fferyllol.

Gall hyfforddiant fod ar ffurf rhaglen strwythuredig sy’n seiliedig ar ymarfer sy’n cynnwys dysgu hunangyfeiriedig, arsylwadau, casglu tystiolaeth wedi’i mapio yn erbyn fframwaith cymwyseddau, adborth gan ymarferwyr profiadol, cymorth gan rwydwaith cymheiriaid ac asesiadau.

Mae hyfforddiant Newydd Gofrestru yn gam tuag at ddilyniant gyrfa, drwy fod yn alluogwr i weithwyr proffesiynol i symud ymlaen i ymarfer fferyllol uwch.

  • Hyfforddiant fferyllwyr newydd gofrestru
  • Hyfforddiant sylfaen technegwyr fferyllol.