Wrth i’r GIG addasu i’r newidiadau yn anghenion y boblogaeth, mae mwy a mwy o alw ar fferylliaeth i gynnig gwasanaethau ymarfer uwch i gleifion.
Mae AaGIC yn cynnig cyfleoedd dysgu ymarfer uwch i hybu datblygiad parhaus gweithwyr fferyllol proffesiynol.
Ar hyn o bryd rydym yn helpu ymarferwyr i gwblhau ystod o gyrsiau i hybu datblygiad sgiliau clinigol i reoli cyflyrau acíwt, rhagnodi annibynnol a sgiliau ymchwil, gan nifer o brifysgolion ledled Cymru.
Rydym hefyd yn cynnig cefnogaeth i weithwyr fferyllol proffesiynol i gwblhau fframweithiau cymhwysedd mewn dau faes.