Mae gan lawer o'n gweithwyr presennol aelodau o'r teulu sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd neu sydd wedi gwasanaethu dros ein gwlad gyda dewrder ac ymrwymiad.
Wrth i wythnos y lluoedd arfog agosáu, mae ein cydweithwyr am rannu a myfyrio ar yrfaoedd, cyflawniadau, aberthau a dewrder eu hanwyliaid.
Wythnos diwethaf, cafodd ein Dirprwy Gyfarwyddwr Gofal Eilaidd Ôl-raddedig, glod y Llywydd gan Goleg Brenhinol yr Anaesthetyddion (RCoA) yn ystod y cyfarfod i Diwtoriaid y Coleg Cenedlaethol.
Ar gyfer Gwobrau Chwarae Teg Womenspire 2022, byddwn yn noddi’r categori Menywod mewn Iechyd a Gofal.
Heddiw (Dydd Iau 19 Mai 2022), rydym wedi rhyddhau cyhoeddiad cyntaf adroddiad blynyddol newydd, sef Gwella Hyfforddiant Meddygol yng Nghymru.
Mae’r adnodd newydd hwn wedi’i ddatblygu gan ein Deoniaeth Feddygol gyda chymorth Pwyllgor Hyfforddeion Cymru er mwyn cyfleu’r ymroddiad a’r gwaith sy’n cael ei wneud yn AaGIC i wella profiadau a bywydau meddygon sy’n cael eu hyfforddi, ac sy’n gweithio ac yn byw, yng Nghymru.
Heddiw, sef dydd Iau 12 Mai 2022, yw Diwrnod Rhyngwladol y Nyrs.
I nodi’r achlysur, rydym yn cefnogi ymgyrch ‘Yma Am Fywyd’ Uwch Swyddion Nyrsio y DU a Gogledd Iwerddon. Mae’r ymgyrch hon yn anrhydeddu swyddogaethau a chyfrifoldebau amrywiol y nyrsys a bydwragedd yn ogystal â’u cyflawniadau anhygoeol, a hynny mewn lleoliadau clinigol ac anghlinigol ledled y DU.
Mae’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wedi cadarnhau y bydd estyniad i Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru ar gyfer myfyrwyr gofal iechyd cymwys sy’n dechrau ar eu hastudiaethau yn 2023-24.
Mae Simon Cassidy, Pennaeth Profiad a Gwella Lleoliadau yn AaGIC wedi derbyn Gwobr Rhagoriaeth Prif Swyddfa Nyrsio Cymru. Mae hyn am y gefnogaeth a roddodd i nyrsys dan hyfforddiant trwy gydol Covid-19.
Mae ein cydweithwyr a wirfoddolodd yn ddiweddar ar y rheng flaen i gefnogi’r ymgais i gyflwyno’r brechlyn yn rhannu eu profiadau gyda ni yma.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Kathryn Marshall, Pennaeth Datblygu’r Gweithlu Deintyddol AaGIC, wedi derbyn y Gymrodoriaeth Anrhydeddus agoriadol am ei chyfraniadau eithriadol i ddeintyddiaeth.
Rydym wedi recriwtio tri Hwylusydd Addysg Cartref Gofal Rhanbarthol (CHEFs), sy'n gweithio i:
Mae’n tîm Fferylliaeth wedi lansio ymgyrch newydd, wedi’i dylunio i hybu hunanystyriaeth ymysg gweithwyr fferyllol proffesiynol o’u cymhwysedd o ran tegwch diwylliannol.
Gwirfoddolodd Emma Garland, ein Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth, i rannu ei phrofiad gweinyddol yng nghanolfan frechu torfol BIPAB yn ddiweddar.
Dydd Iau 7 Ebrill yw Diwrnod Iechyd y Byd. Felly, rydyn ni wedi cydgasglu rhai o'n hoff ‘gamau cyflym ymlaen’ y gallwch eu cymryd i wella gofal iechyd i bobl Cymru.
Rhaglen STP nawr AR AGOR!
Heddiw, rydym yn dod at ein gilydd fel cenedl i fyfyrio a chofio'r rhai sydd, yn anffodus, wedi colli eu bywydau i'r pandemig neu sy'n galaru am farwolaeth rhywun annwyl - mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad dwysaf gyda chi.
Mae’r ymgyrch atyniad Hyfforddi Gweithio Byw sy’n cefnogi recriwtio i GIG Cymru, wedi bod yn rhedeg ers pum mlynedd bellach.