Genomeg yw'r astudiaeth o enynnau (genom) person. Mae’n ddisgyblaeth sy’n datblygu’n gyflym ac sy’n cynnig cyfleoedd i drawsnewid y gofal y mae cleifion yn ei dderbyn, gan gynnwys:
Mae angen i ni sicrhau y gellir cynnig y gwasanaeth hwn i gleifion ledled Cymru fel y gallwn ddarparu'r gofal gorau posibl. I wneud hyn rydym yn datblygu cynllun gweithlu strategol gyda Phartneriaeth Genomeg Cymru (GPW). Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod gan Gymru’r gweithlu cywir ag arbenigedd arbenigol i ddarparu’r gwasanaeth hwn y mae mwy a mwy o alw amdano.
Wedi'u datblygu gan GIG Lloegr, adnoddau chwim a chryno yw GeNotes a all gynorthwyo gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i wneud y penderfyniadau genomeg cywir ym mhob cam o'r llwybr clinigol.
Bydd adnoddau pellach sy'n benodol i'r llwybrau clinigol yng Nghymru ar gael yn fuan.
Er mwyn gwreiddio genomeg fel gwasanaeth rheolaidd ledled gofal iechyd yng Nghymru, mae angen inni addysgu gweithlu GIG Cymru amdano a sut mae'n effeithio ar eu hymarfer.
Gyda GPW, rydym wedi datblygu'r modiwlau e-ddysgu canlynol i gynyddu eich dealltwriaeth a gwella gofal cleifion.
Gyda staff sydd wedi’u hyfforddi’n dda a phrofion genomeg priodol ar waith, gall GIG Cymru drawsnewid y modd y darperir gofal iechyd er budd cleifion.
I gael rhagor o wybodaeth am y tîm genomeg, cysylltwch â Lisa.Bassett3@wales.nhs.uk.