Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i hyfforddeion

Two doctors looking at a screen

Y diweddaraf am Ailddilysiad y Cyngor Meddygol Cyffredinol

O 17 Mawrth 2020 ymlaen, oherwydd y sefyllfa bresennol o ran Covid-19, bydd dyddiad ailddilysu meddygon sydd i fod i ailddilysu cyn diwedd mis Medi yn cael ei ohirio am flwyddyn. Byddwn yn parhau i adolygu hyn ac yn gohirio ymhellach yn ôl yr angen.

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn cydnabod mai ein hyfforddeion yw ein hased mwyaf. Rydym yn gwerthfawrogi eich barn a’ch awgrymiadau ar gyfer gwella’r rhaglenni a’r amgylchedd hyfforddi yn fawr iawn. Mae sawl cyfle ledled Cymru i chi gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth i chi a’ch cydweithwyr.

Ar 8 Mawrth 2018 fe wnaethom gynnal Digwyddiad Ymgysylltu â Hyfforddeion hynod lwyddiannus a oedd yn gyfle i wneud y canlynol:

  • rhannu gwybodaeth am brosiectau llwyddiannus sy’n cael eu harwain gan hyfforddeion ledled Cymru.
  • rhannu gwybodaeth a rhoi gwybod i hyfforddeion am ddatblygiadau mewn perthynas â hyfforddiant ac addysg, yn lleol ac yn genedlaethol.
  • trafod datblygiadau diweddar gyda’r hyfforddeion a cheisio eu hadborth.
  • gweithio gyda’r hyfforddeion i nodi’r heriau a’r pryderon sydd ganddynt am eu hamgylchedd hyfforddi a’u profiad.

Yn ystod y diwrnod hwn, fe wnaethom hefyd gynnal dwy sesiwn grŵp ffocws gyda hyfforddeion yn edrych ar yr hyn roeddent yn ei werthfawrogi am eu hyfforddiant, pa welliannau y gellid eu gwneud a pha heriau y gallent eu hwynebu a sut gellid mynd i’r afael â’r rhain.

Mae adborth o’r grwpiau ffocws hyn yn cael ei drafod ar hyn o bryd gyda chydweithwyr ar draws AaGIC a Darparwyr Addysg i ddatblygu cynllun gweithredu. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhannu yma yn fuan.

Cliciwch yma i gael polisïau a gweithdrefnau hyfforddeion.