Er mwyn darparu digon o nyrsys ar gyfer y dyfodol, rydym yn datblygu cynllun gweithlu strategol. Bydd yn helpu i recriwtio, ailhyfforddi a hyfforddi nyrsys yng Nghymru drwy roi argymhellion i gyflogwyr nyrsio ar gyfer gweithredu.
Bydd y Cynllun Gweithlu Nyrsio yn cael ei ddatblygu gyda mewnbwn nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill.
Mae nifer yr oriau ychwanegol y mae nyrsys yn eu gweithio yn uchel. Mae tua 2900 o swyddi gwag ar gyfer nyrsys, ac nid yw recriwtio a chadw nyrsys yn cyd-fynd â'r cynnydd mawr yn y galw am ein gwasanaethau GIG.
Mae ein Cynllun Tymor Canolig Integredig (IMTP) yn amlygu’r prinderau sy’n wynebu’r gweithlu nyrsio. Mae nyrsys yn cael eu cyflogi ym mhob rhan o system y GIG, a heb weithlu nyrsio cynaliadwy, ni fydd y GIG yn gallu darparu gwasanaethau i bobl Cymru.
Mae'r cynllun wedi'i rannu'n dri cham.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y Cynllun Gweithlu Nyrsio, cysylltwch â'n tîm drwy heiw.nursingworkforceplan@wales.nhs.uk.