Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad Blynyddol o Ddatblygiad Cymhwysedd (ARCP)

Meddygon yn aros am adolygiad blynyddol

Adolygiad Blynyddol o Ddatblygiad Cymhwysedd (ARCP) yw’r dull ffurfiol a ddefnyddir i fonitro datblygiad hyfforddai trwy eu rhaglen hyfforddiant.

Mae ARCP un ai yn arolwg electronig o’ch e-bortffolio neu’n arolwg o’ch ffolder bapur a’r dystiolaeth a gynhwysir ynddi, fel y nodir yng nghanllaw cyfeirio The Gold Guide y DU ar gyfer hyfforddiant arbenigedd ôl-raddedig.

Yn ddiweddar, mae hyfforddiant wedi dod yn fwy seiliedig ar gymhwysedd, yn hytrach na dibynnu’n llwyr ar amser, er bod isafsymiau amser hyfforddi yn dal i gael eu gweithredu. Mae mwy o bwyslais wedi bod ar asesu ac arddangos cyflawniad o’r cymwyseddau gofynnol o fewn yr arbenigedd a ddewiswyd gan feddyg. Diffinnir y cymwyseddau hyn gan y cwricwla a luniwyd gan y Colegau a’r Cyfadrannau Brenhinol, ac a gafodd eu cymeradwyo gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) fel rheolydd hyfforddiant yn y DU.

Gweithdrefn

Rhaid i bob hyfforddai gwblhau ffurflen ail-ddilysu (R form) hunan-ddatganiad cyn bob ARCP; mae hyn yn ofyniad GMC ar gyfer dibenion ail-ddilysu hyfforddai. Cwblheir y ffurflen R ar-lein drwy’r system Intrepid a gofynnir i hyfforddeion gwblhau'r ffurflen hon chwe wythnos cyn llenwi eu ARCP.

Rhaid i banel ARCP gynnwys o leiaf tri aelod panel a all gynnwys deoniaid cyswllt, cyfarwyddwyr rhaglen a goruchwylwyr/ hyfforddwyr addysgol. Bydd gan y panel hefyd fewnbwn gan gynrychiolydd lleyg a chynghorydd allanol.

Bydd hyfforddeion sy’n hyfforddi ar raddfa lai na llawn amser (LTFT) yn cael ARCP bob blwyddyn, ond bydd y gofynion hyfforddi yn ôl yr un gyfradd.

I gael gwybodaeth ARCP hyfforddiant arbenigol ewch I’w tudalen ARCP.