Mae'r Tîm Llywodraethu Dilyniant dan Hyfforddiant yn un dimau ymroddedig AaGIC a sefydlwyd i gydlynu a chynghori ar yr holl faterion sy'n ymwneud ag Adolygiadau ac Apeliadau ARCP (Annual Reviews of Competence Progression/Adolygiadau Blynyddol o Ddilyniant Cymhwysedd). Mae'r tîm yn rhoi'r gallu i hyfforddeion ofyn am adolygiad neu apêl o'u canlyniad ARCP.
Gall rhai hyfforddeion ofyn am adolygiad neu apêl o'u canlyniad ARCP. Mae gan Addysg Iechyd a Gwella Cymru (HEIW) dîm ymdroddedig sy'n cydlynu ac yn cynghori ar bopeth sy'n ymwneud ag adolygiadau ac apeliadau ARCP.
Os ydych am gael adolygiad neu apêl, llenwch un o'r ffurflenni cais pwrpasol:
Os ydych chi’n ystyried gwneud cais, darllenwch y polisi ar gyfer adolygiadau ac apeliadau ARCP.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol neu os ydych chi'n cael anhawster dod o hyd i unrhyw un o'r dogfennau perthnasol, cysylltwch â thîm apeliadau AaGIC.