Mae'r rhaglen Hyfforddiant Sgiliau Gwella Ansawdd (QIST) yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau ymarferol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol wneud newidiadau amser real. Gall y newidiadau hyn wella gwasanaethau iechyd a gwella'r amgylchedd dysgu.
Mae'r rhaglen yn cefnogi amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi ac adnoddau e-ddysgu, rhithwir ac wyneb yn wyneb Gwella Ansawdd (QI). I gefnogi eich llwyddiant, mae cynnwys y rhaglen yn cael ei fapio yn erbyn eich gofynion unigol yn y cwricwla hyfforddi perthnasol.
Darperir yr hyfforddiant hwn mewn partneriaeth â Gwelliant Cymru i gyflwyno rhaglen hyfforddi QI unigryw i Gymru.
Isod mae gwybodaeth am bob cam o hyfforddiant QIST.