Neidio i'r prif gynnwy

Amdanom ni

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yw'r corff gweithlu strategol ar gyfer GIG Cymru. Fel Awdurdod Iechyd Arbennig, mae gennym gyfraniad unigryw i'w wneud wrth fynd i'r afael â materion strategol ac arbenigol yn ymwneud â'r gweithlu. Rydym hefyd yn ymdrechu i sicrhau bod Cymru'n lle gwych i ddilyn hyfforddiant a gweithio ynddo ar ran ein staff iechyd a gofal, gan hyrwyddo cyfraniad yr holl broffesiynau a'r galwedigaethau drwy gyfrwng ein swyddogaethau statudol. Ymhlith y rhain mae'r canlynol:

Addysg a Hyfforddiant, Cynllunio Comisiynu a Darparu

Rydym yn cynllunio, comisiynu, darparu a rheoli ansawdd addysg a hyfforddiant israddedig ac ôl-raddedig ar gyfer ystod eang o broffesiynau iechyd.  Ni yw partner datblygu Llywodraeth Cymru ar gyfer y gyfres o fframweithiau prentisiaethau gofal iechyd.  Rydym yn gwario'r gyfran fwyaf o'n cyllideb ar gomisiynu addysg a hyfforddiant ar gyfer GIG Cymru er mwyn sicrhau cyflenwad yn y dyfodol.

Datblygu Arweinyddiaeth

Mae AaGIC yn gyfrifol am osod y strategaeth, yr egwyddorion a'r fframweithiau ar gyfer datblygu arweinyddiaeth ledled Cymru, yn seiliedig ar arweinyddiaeth dosturiol a chyfunol.  Ynghyd â chomisiynu a chyflwyno gweithgarwch datblygu arweinyddiaeth ar gyfer grwpiau allweddol, rydym yn arwain ar gynllunio olyniaeth a rheoli talent ar gyfer darpar Gyfarwyddwyr a Phrif Weithredwyr.

Strategaeth, Cynllunio a Deallusrwydd y Gweithlu

Yn ogystal â darparu arweinyddiaeth strategol ar gyfer datblygu gallu cynllunio’r gweithlu ar draws y GIG, rydym yn chwarae rhan arweiniol yn y gwaith o ddatblygu cynlluniau gweithlu strategol a darparu mewnwelediad a gwybodaeth ddadansoddol i gefnogi datblygiad y gweithlu presennol ac yn y dyfodol.

Datblygu a Thrawsnewid y Gweithlu

Rydym yn cefnogi trawsnewid a gwella'r gweithlu i ymateb i heriau sylweddol o ran gwasanaethau, gan gynnwys datblygu sgiliau, dylunio rolau, datblygiad proffesiynol parhaus a datblygu llwybrau gyrfa.

Cymorth proffesiynol ar gyfer datblygiad y gweithlu a sefydliadol

Rydym yn cynorthwyo datblygiad y gweithlu a'r proffesiwn datblygu sefydliadol yng Nghymru.

Ansawdd

Mae ansawdd ein haddysg a'n hyfforddiant, yn uniongyrchol ac wedi'i gomisiynu, yn gwella'n barhaus. Mae timau ar draws y sefydliad yn gweithio i weithredu ac ymgorffori safonau ansawdd fframweithiau a strategaethau cenedlaethol yng ngwaith AaGIC a thrwy ystod y system ehangach drwy ein gweithgarwch cydweithredol.

Gyrfaoedd ac Ehangu Mynediad

Rydym yn hyrwyddo gyrfaoedd iechyd a'r agenda ehangu mynediad i sicrhau bod cyfleoedd i weithio o fewn y system iechyd a gofal ar gael i bawb.  Rydym yn gweithio i gynnwys pobl yn ein cymunedau sydd â sgiliau a phrofiad gwerthfawr sydd wedi'u tangynrychioli yn ein gweithlu ar hyn o bryd.

Cadw

Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid system i ymgorffori iechyd a lles mewn arferion gwaith er mwyn hybu cadw staff.