Neidio i'r prif gynnwy

Dadansoddeg ddigidol

Mae AaGIC yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o gynhyrchu a rhannu gwybodaeth am gyflwr presennol y gweithlu gofal iechyd a’r sefyllfa a ragwelir. Er enghraifft, gall hyn fod yn unrhyw beth o faint o bobl sy'n gweithio mewn proffesiwn penodol ar hyn o bryd, adnodau faint rydym yn debygol o fod eu hangen dros y deng mlynedd nesaf, a faint sydd mewn hyfforddiant ar hyn o bryd. Mae'r wybodaeth hon yn helpu i ddatblygu camau gweithredu i wella gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru.

Mae'r adroddiad blynyddol ar dueddiadau'r gweithlu yn enghraifft o adroddiad sy'n canolbwyntio ar wybodaeth sydd ar gael i bawb.

 

Mae peth o’r gwaith rydym yn ei wneud yn cynnwys:

Yr Arsyllfa (The Observatory)

Rydym yn datblygu saernïaeth data ystwyth a graddadwy a fydd yn dwyn ynghyd setiau gwahanol o ddata. Ar hyn o bryd gelwir hyn yn Yr Arsyllfa. Bydd yn darparu un pwynt mynediad i ddangosfyrddau, pecynnau dadansoddol, a cheisiadau am wybodaeth ad-hoc a fydd yn helpu i lunio cynlluniau gweithlu. Bydd y wybodaeth ynddo yn gywir, yn hawdd ei deall, ac ar gael mewn sawl fformat. Bydd y system hon hefyd yn sicrhau bod data yn cydymffurfio â safonau data cenedlaethol.

 

Modelu data

Ar hyn o bryd rydym yn creu senarios sy’n rhagweld anghenion gweithlu’r GIG yng Nghymru yn y dyfodol. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio mewn cynlluniau gweithlu, strategol, ac addysg a hyfforddiant, yn ogystal â phapurau ac adroddiadau. Bydd cam cyntaf y modelu galw yn cael ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2024 ar gyfer y pedwar grŵp nyrsio. Y rhain yw nyrsio oedolion a chyffredinol, nyrsio plant a phobl ifanc, nyrsio anableddau dysgu, a nyrsio iechyd meddwl. Heb fodelu galw mae'n amhosibl gwybod a yw ein hamcanestyniadau presennol o gyflenwad y gweithlu yn mynd i fodloni'r galw yn y dyfodol.

 

Modelu piblinellau

Rydym hefyd yn datblygu model piblinell sy'n edrych ar daith myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig trwy addysg i gyflogaeth o fewn y sector iechyd yng Nghymru. Bydd y data hwn yn helpu i gefnogi sut rydym yn denu, addysgu a hyfforddi ein gweithlu yn y dyfodol, yn ogystal â deall sut rydym yn cefnogi ac yn cadw'r gweithlu presennol.

 

Os hoffech wybod mwy am ein gwaith dadansoddol neu sut y gallwch elwa ohono, cysylltwch â HEIW.ATeam@wales.nhs.uk I gael rhagor o wybodaeth am gynllunio’r gweithlu, ewch i’n tudalennau gweith