Neidio i'r prif gynnwy

Fframwaith gallu digidol

Mae gofal iechyd wedi gweld cynnydd nodedig yn y defnydd o wasanaethau digidol dros y degawd diwethaf. Bu datblygiadau anhygoel ym meysydd Deallusrwydd Artiffisial (AI), roboteg, argraffu 3D, nanodechnoleg, meddygaeth fanwl, dyfeisiau monitro iechyd gwisgadwy a mwy.

Mae technolegau digidol yn trawsnewid gofal iechyd mewn ffordd gynaliadwy. Mae'n bwysig ein bod yn eich grymuso chi fel gweithwyr gofal iechyd i goleddu’r newidiadau cyffrous hyn ac i ddatblygu’ch sgiliau digidol.

Dyma pam ein bod wedi creu’r fframwaith gallu digidol. Mae'n adnodd ymarferol, rhyngweithiol i chi ddeall yn well y sgiliau, yr ymddygiadau a'r agweddau sydd eu hangen arnoch i ffynnu mewn byd digidol. Mae'n cynnwys adnodd hunanasesu, y mae ei ganlyniadau ar eich cyfer chi yn unig, ac adnoddau datblygu sy'n gweddu i chi.

 
Trosolwg

Mae’r fframwaith gallu digidol ar gyfer gofal iechyd yng Nghymru’n amlinellu’r sgiliau, y cymwyseddau a’r ymddygiadau sydd eu hangen i gyfranogi i’r eithaf ac yn ddiogel mewn amgylcheddau digidol. Mae’n rhoi cyfle i fyfyrio ar eich gallu digidol unigol a nodi llwybrau i’ch helpu i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau.

Mae’r fframwaith yn nodi chwe pharth o ran gallu digidol:

 

  • dysgu ac arweinyddiaeth: gan gynnwys dysgu, cynorthwyo eraill ac arweinyddiaeth
  • gweithio gydag eraill: gan gynnwys cyfathrebu, cydweithio a chyfranogi
  • diogelwch a lles: gan gynnwys lles, proffesiynoldeb, diogelwch a diogeledd
  • defnyddio technoleg: gan gynnwys sgiliau sylfaenol, offer digidol a chynhyrchiant
  • hyfedredd data: gan gynnwys darganfod data, defnyddio data a meithrin gwybodaeth drwy ddata
  • ymchwil ac arloesi: gan gynnwys ymchwil, arloesedd ac effaith.

Drwy alluogi’r gweithlu gofal iechyd i gymryd rhan yn ddigidol, mae’r fframwaith yn ein galluogi i wireddu buddion rhaglenni trawsnewid digidol fel e-ragnodi, yn ogystal â chyfrannu at well ansawdd a deilliannau i bawb. Bydd yr adnodd hunanarfarnu’n cynorthwyo unigolion a thimau i ddeall eu gallu digidol yn well ac ymgymryd â chyfleoedd datblygiad wedi’u targedu.

 

Sut i'w gyrchu

Gellir cyrchu’r fframwaith a’r adnodd hunanarfarnu trwy gyfrwng Y Tŷ Dysgu, ein gwe-lwyfan dysgu digidol cenedlaethol. Cofrestrwch i gael cyfrif os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes. Gall gymryd hyd at 24 awr i'ch cyfrif ddod yn fyw cyn ichi allu asesu'r adnoddau. Byddwch yn cael eich cofrestru'n awtomatig ar gyfer y cwrs fframwaith gallu digidol.

 

Newyddion