Mae’r Rhaglen Staff Nyrsio’n cefnogi GIG Cymru i fodloni gofynion Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 a dilyn ymagwedd ‘Unwaith i Gymru’.
Grŵp Staff Nyrsio Cymru Gyfan, gyda chynrychiolwyr o bob sefydliad GIG Cymru a Llywodraeth Cymru, yw’r grŵp cyflawni ar gyfer y rhaglen yn gyffredinol.
Mae’r grŵp yn cefnogi dyluniad a chyflawniad rhaglen waith genedlaethol fydd yn galluogi sefydliadau GIG Cymru i gyfrifo’r nifer a’r cymysgedd sgiliau cywir o ran staff nyrsio sydd eu hangen i ddarparu’r gofal gorau i gleifion.
Drwy gynnig cydlyniad gweithredol i bum ffrwd waith, mae’r grŵp hefyd yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad wrth iddynt ddatblygu adnoddau cynllunio’r gweithlu ar gyfer eu maes arbenigedd. Mae’r grŵp hefyd yn cefnogi byrddau iechyd i baratoi ar gyfer ail ddyletswydd y Ddeddf.
Dan arweiniad y Prif Swyddog Nyrsio a Chyfarwyddwyr Nyrsio Cymru, dyma’r pum ffrwd waith:
• cleifion mewnol meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion
• cleifion mewnol pediatreg
• cleifion mewnol iechyd meddwl
• ymweliadau iechyd
• nyrsio ardal.
Mae pob ffrwd waith, gyda chynrychiolwyr o fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, yn gweithio tuag at ddatblygu a phrofi adnodd cynllunio’r gweithlu ar sail tystiolaeth sy’n benodol i’w maes. Bydd hyn yn sicrhau y gallant gyfrifo’r nifer cywir o staff nyrsio a’r cymysgedd sgiliau cywir sydd eu hangen er mwyn darparu gofal effeithiol i gleifion.
Mae’r rhaglen yn dibynnu ar ymgysylltu â rhanddeiliaid ar gyd-gynhyrchu, profi, gwerthuso a gweithredu adnodd cynllunio’r gweithlu ar sail tystiolaeth.
Cynhelir digwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol a chenedlaethol ar gyfer pob un o’r ffrydiau gwaith. Tra bod y digwyddiadau hyn yn gyfyngedig i’n cydweithwyr GIG Cymru a phartneriaid allweddol, cydnabyddir y cyfraniad gwerthfawr y gall grwpiau eraill, aelodau’r cyhoedd a myfyrwyr nyrsio ei wneud at y gwaith pwysig hwn, ac felly mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer ymgysylltu’n ehangach.
Oherwydd y galw am ffyrdd newydd o weithio yn ystod pandemig COVID-19 a’r angen i gadw at bellter cymdeithasol, rydym yn ymchwilio ffyrdd arloesol i barhau i godi ymwybyddiaeth a sicrhau bod rhanddeiliaid yn cael y wybodaeth ddiweddaraf, yn cael eu cynnwys ac yn gallu cyfrannu at y gwaith hwn.
Cysylltwch â'r tîm drwy heiw.allwalesnursestaffingprogramm@wales.nhs.uk.