Neidio i'r prif gynnwy

Ffrwd waith cleifion mewnol pediatreg

Hands holding feet of newborn

Ynghylch y ffrwd waith

Mae’r ffrwd waith pediatreg yn cynnwys uwch gynrychiolwyr o bob Bwrdd Iechyd yng Nghymru. Mae’r ffrwd waith yn cwrdd yn rheolaidd ac mae’n gyfrifol am arwain y gwaith o ddatblygu a phrofi adnodd cynllunio’r gweithlu ar sail tystiolaeth ar gyfer wardiau cleifion mewnol pediatreg.  

Mae elfen hanfodol ar y gwaith yn cynnwys ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid allweddol gan gynnwys staff rheng-flaen, timau rheoli a rhieni/gofalwyr. Caiff y gwaith ei arwain gan Gonfensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn ac mae’n defnyddio ymagwedd ar sail hawliau.

Nod

Ar ran GIG Cymru, pwrpas grŵp y ffrwd waith yw:

  • defnyddio ymagwedd ar sail tystiolaeth i ddatblygu dulliau, adnoddau a thechnegau cadarn i bennu lefelau staff nyrsio priodol o fewn wardiau cleifion mewnol pediatreg, gan ddefnyddio model triongli cyffredin
  • cefnogi Byrddau Iechyd Cymru i ddilyn ymagwedd ‘Unwaith i Gymru’ o ran bodloni gofynion y Ddeddf
  • yn unol ag amserlenni Llywodraeth Cymru, paratoi Byrddau Iechyd ar gyfer ymestyn y Ddeddf i wardiau cleifion mewnol pediatreg
  • cefnogi strategaeth gyhoeddi a chyfathrebu’r rhaglen Staff Nyrsio Cymru Gyfan i sicrhau bod rhanddeiliaid yn cael y wybodaeth ddiweddaraf ac yn cael eu cynnwys, gan gynnwys staff rheng-flaen, plant a phobl ifanc, a rhieni/gofalwyr
  • cyflawni’r camau gweithredu a nodwyd yng nghynllun y gweithgor yn unol ag amserlenni, gan amlygu risgiau a heriau i’r gwaith 
  • darparu adroddiadau uchafbwyntiau rheolaidd a chreu argymhellion, gan geisio cymorth ac arweiniad gan Grŵp Staff Nyrsio Cymru Gyfan
  • cefnogi a chynghori is-grwpiau i wneud gwaith tasg a gorffen fel y’i nodwyd yng nghynllun y ffrwd waith, gan weithredu fel cyfrwng rhwng yr is-grŵp a’r Grŵp Staff Nyrsio Cymru Gyfan 
  • rhoi sicrwydd i’r cyhoedd drwy broses glir a thryloyw.

 

Uchafbwyntiau’r cynnydd hyd yma

  • cyhoeddi cylchlythyr ddwywaith y flwyddyn
  • mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi estyniad ail ddyletswydd y Ddeddf i wardiau cleifion mewnol pediatreg
  • cafodd yr egwyddorion staff nyrsio pediatreg dros dro eu lansio ym mis Gorffennaf 2019, ac maent wedi’u defnyddio ledled Cymru er mwyn llywio ac arwain cynlluniau gweithlu’n lleol fel mesur dros dro nes bydd y Ddeddf yn cael ei hymestyn i wardiau cleifion mewnol pediatreg
  • mae nyrsys rheng-flaen wedi cefnogi datblygiad Lefelau Gofal Cymru Pediatreg, ac wedi profi’r adnodd ar wardiau cleifion mewnol pediatreg ers mis Gorffennaf 2017
  • yn dilyn ymagwedd consensws, mae’r ffrwd waith wedi adnabod pedwar dangosydd ansawdd sy’n berthnasol i nyrsys i’w defnyddio’n rhan o’r fethodoleg wedi’i driongli
  • mae’r ffrwd waith wedi bod yn gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys staff rheng-flaen, plant a phobl ifanc drwy fyrddau ymgynghori ieuenctid a rhieni/gofalwyr
  • mae gêm fwrdd broffesiynol yn cael ei datblygu fel dull o gefnogi a gwella barn broffesiynol nyrsys mewn lleoliad clinigol. Mae’r grŵp yn ymchwilio ffyrdd o greu fersiwn broffesiynol o’r gêm gan gynnwys rhaglen ddigidol fyddai’n galluogi cyfranogiad cenedlaethol a rhyngwladol.