Neidio i'r prif gynnwy

Ffrwd waith nyrsio ardal

Nurse helping an elderly woman

Ynghylch y ffrwd waith

Mae’r ffrwd waith nyrsio ardal (DN) yn ymgysylltu â nyrsys ardal ledled Cymru. Mae 159 o dimau nyrsio ardal yn gweithio ym Myrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd Cymru. Caiff y timau eu grwpio fesul ardal neu glystyrau yn eu Bwrdd neu Ymddiriedolaeth Iechyd. Mae’r timau’n gweithio mewn sawl amgylchedd gwahanol, gan gynnwys trefol, gwledig, arfordirol a lleoliadau’r cymoedd sy’n dylanwadu ar faint eu llwythi gwaith a’r mathau o boblogaethau o gleifion.

Mae noddwr, cadeirydd, is-gadeirydd ac arweinydd prosiect y ffrwd waith nyrsio ardal yn cefnogi gwaith grŵp y ffrwd waith, sy’n cynnwys uwch nyrsys ardal o Fyrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd. Mae’r grŵp yn cwrdd pob mis ac yn cydlynu’r camau gweithredu sydd eu hangen i ddatblygu adnodd cynllunio’r gweithlu ar sail tystiolaeth ar gyfer nyrsio ardal. Bydd yr adnodd cynllunio’r gweithlu, a elwir yn Lefelau Gofal Cymru, yn ffurfio rhan o’r dull triongli fydd yn cael ei ddefnyddio i bennu lefelau staffio o fewn gwasanaethau nyrsio ardal ledled Cymru. 

Nod

  • datblygu’r adnodd aciwtedd a dibyniaeth cleifion, Lefelau Gofal Cymru ar gyfer nyrsio ardal.
  • adnabod dangosyddion ansawdd ar sail tystiolaeth sy’n berthnasol i nyrsio ardal, sy’n adlewyrchu safon gofal cleifion ac yn adlewyrchu’r effaith y gall lefelau staff isel ei chael ar y dangosyddion hyn.
  • datblygu ffordd o ddangos tystiolaeth o ran sut caiff barn broffesiynol ei defnyddio i ddiffinio lefelau staff nyrsio ardal a chymysgedd sgiliau, sy’n galluogi cleifion i gael eu nyrsio mewn ffordd sy’n addas i’w hanghenion unigol.
  • gweithio ar y cyd â byrddau/ymddiriedolaethau iechyd ledled Cymru i ddatblygu ffyrdd o ddefnyddio ymagwedd Unwaith i Gymru o ran casglu data a dadansoddi yn unol â gofynion y Ddeddf pan fydd yn cael ei hymestyn i wasanaethau nyrsio ardal, ac er mwyn paratoi ar ei chyfer.
  • bod â gwybodaeth gyfredol a chyfathrebu am gynnydd y Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd a’u cydymffurfiaeth â’r Egwyddorion Staffio Nyrsys Ardal Dros Dro.
  • gweithio ar y cyd ag arweinwyr gweithredol ym mhob Bwrdd ac Ymddiriedolaeth Iechyd er mwyn dilyn yr ymagwedd ‘Unwaith i Gymru’ a chefnogi cyflawniad y camau gweithredu a nodir yng nghynllun y ffrwd waith nyrsio ardal.

Cylch Gorchwyl

Ar ran GIG Cymru, cylch gorchwyl y grŵp yw:

  • datblygu adnodd aciwtedd a dibyniaeth cleifion cenedlaethol ar gyfer nyrsio ardal, a elwir yn Lefelau Gofal Cymru
  • hwyluso a goruchwylio gweithrediad yr adnodd cynllunio’r gweithlu o fewn Byrddau/Ymddiriedolaethau Iechyd yng Nghymru
  • defnyddio’r ymagwedd ar sail tystiolaeth i ddatblygu dulliau, adnoddau a thechnegau cadarn i bennu’r lefelau staff nyrsio priodol o fewn y gwasanaethau nyrsio ardal, gan ddefnyddio’r model triongli cyffredin
  • adnabod dangosyddion ansawdd ar sail tystiolaeth sy’n sensitif i nyrsio ardal ac sy’n adlewyrchu ansawdd o ran gofal cleifion
  • datblygu ffordd o ddangos tystiolaeth o ran sut caiff barn broffesiynol ei defnyddio i ddiffinio lefelau staffio nyrsio ardal a chymysgedd sgiliau sy’n galluogi cleifion i gael eu nyrsio mewn ffordd sy’n addas i’w hanghenion unigol
  • adnabod y system wybodeg a’r broses ar gyfer casglu a dadansoddi data
  • gan ddilyn ymagwedd ‘Unwaith i Gymru’, darparu canllawiau a chymorth i Fyrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd i baratoi at weithrediad ail ddyletswydd y ddeddf
  • cefnogi Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd, a bod â gwybodaeth gyfredol am gynnydd a chydymffurfiaeth gyda’r Egwyddorion Staffio Nyrsys Ardal Dros Dro
  • cefnogi strategaeth gyhoeddi a chyfathrebu’r rhaglenni Staff Nyrsio Cymru Gyfan er mwyn sicrhau bod rhanddeiliaid yn cael y wybodaeth ddiweddaraf ac yn cael eu cynnwys
  • gan weithio ar y cyd, sicrhau darpariaeth amserol y camau gweithredu gofynnol, fel y’i nodir yng nghynllun y ffrwd waith nyrsio ardal.
  • cefnogi a rhoi cyngor i is-grwpiau i gyflawni gwaith tasg a gorchwyl fel y’i nodir yng nghynllun y ffrwd waith
  • darparu adroddiadau uchafbwyntiau rheolaidd a chreu argymhellion, gan geisio cymorth a chanllawiau gan y Grŵp Lefelau Staff Nyrsio Cymru Gyfan.

Uchafbwyntiau’r cynnydd hyd yma

 

  • casglu a dadansoddi ystod o ddata a gwybodaeth yn sgil gweithio gyda channoedd o nyrsys ardal mewn digwyddiadau a gweithdai lleol a chenedlaethol, er mwyn cyd-gynhyrchu’r Lefelau Gofal Cymru drafft ar gyfer nyrsio ardal.
  • creu is-grwpiau’n cynnwys uwch arweinwyr nyrsio ardal yn gweithio ar:

     

    1. Lefelau Gofal Cymru
    2. archwiliadau/dangosyddion ansawdd
    3. barn broffesiynol
    4. gwybodeg.
    5.  
  • creu cynllun cynhwysfawr ac ystod o ddulliau cefnogi i arwain a rhoi cymorth i dimau gweithredol er mwyn paratoi at brofi’r Lefelau Gofal Cymru drafft ar gyfer nyrsio ardal.
  • adolygu canfyddiadau ar y cyd y pum archwiliad ansawdd sydd wedi’u cyflawni ledled y pum bwrdd iechyd.
  • mapio’r ffordd ymlaen er mwyn diffinio dangosyddion ansawdd sy’n benodol i nyrsio ardal ac sy’n gweddu i lefelau staffio a chanlyniadau cleifion.
  • cynnal ymarfer sgopio o ran y systemau casglu data TG a’r dyfeisiau mewnbynnu data a ddefnyddir gan bob tîm nyrsio ardal yng Nghymru.
  • dadansoddi canfyddiadau’r gweithdai barn broffesiynol ac ymchwilio’r berthynas rhwng barn broffesiynol a lefelau staff nyrsio a chymysgedd sgiliau.