Neidio i'r prif gynnwy

Ffrwd waith ymweliadau iechyd

Meddygon yn edrych ar ffeil

Ynghylch y ffrwd waith

Mae’r grŵp ffrwd waith ymweliadau iechyd yn cynnwys uwch gynrychiolwyr o bob Bwrdd ac Ymddiriedolaeth Iechyd yng Nghymru. Mae’r ffrwd waith yn cwrdd yn rheolaidd ac yn gweithio ar ddatblygu a phrofi adnodd cynllunio’r gweithlu ar sail tystiolaeth sydd i’w ddefnyddio o fewn timau ymweliadau iechyd ledled Cymru.

Nod

Dilyn ymagwedd ar sail tystiolaeth er mwyn creu dulliau, adnoddau a thechnegau cadarn i bennu lefelau staff nyrsio priodol o fewn gwasanaethau ymweliadau iechyd ledled Cymru, gan ddefnyddio model triongli cyffredin.

Bydd yr adnoddau a grëir gan y ffrwd waith yn galluogi timau ymweliadau iechyd i gyfrifo’r nifer gywir o nyrsys, a’r cymysgedd sgiliau cywir sydd eu hangen er mwyn darparu gofal effeithiol i fodloni anghenion unigol teuluoedd.

Cylch Gorchwyl

Ar ran GIG Cymru, pwrpas y grŵp yw:

  • creu adnoddau cynllunio’r gweithlu ar sail tystiolaeth i’w defnyddio o fewn cyd-destun Cymru
  • cefnogi’r defnydd o ddull triongli i gyfrifo lefelau staff nyrsio, sy’n cynnwys datblygu adnodd cenedlaethol i fesur aciwtedd a dibyniaeth, adnabod dangosyddion ansawdd a phennu sut ellid defnyddio barn broffesiynol i gyfrifo lefelau staff nyrsio o fewn gwasanaethau ymweliadau iechyd
  • cefnogi Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd yng Nghymru i ddilyn ymagwedd Unwaith i Gymru er mwyn bodloni anghenion Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016, pan fydd ail ddyletswydd y Ddeddf yn cael ei hymestyn i wasanaethau ymweliadau iechyd
  • creu a hwyluso gweithrediad egwyddorion staff nyrsio Ymweliadau Iechyd Cymru Gyfan dros dro
  • hwyluso a goruchwylio gweithrediad yr adnodd cynllunio’r gweithlu o fewn Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd yng Nghymru
  • cefnogi strategaeth gyhoeddi a chyfathrebu rhaglenni Staff Nyrsio Cymru Gyfan er mwyn sicrhau bod rhanddeiliaid yn cael y wybodaeth ddiweddaraf ac yn cael eu cynnwys
  • rhoi adroddiadau rheolaidd a phapurau sefyllfa ar gynnydd y ffrwd waith yn erbyn cynllun y ffrwd waith i’r Grŵp Staff Nyrsio Cymru Gyfan a’r Cyfarwyddwyr Nyrsio/Prif Swyddog Nyrsio
  • creu argymhellion ar sail adolygiad o’r dystiolaeth bresennol a sicrhau aliniad â safonau cenedlaethol a rhyngwladol a rhaglenni eraill
  • cyflawni’r camau gweithredu a nodwyd yng nghynllun y gweithgor yn unol ag amserlenni, gan amlygu risgiau a heriau i’r gwaith.

Uchafbwyntiau’r cynnydd hyd yma

  • cyhoeddi cylchlythyr bob yn ail flwyddyn
  • mae'r llif gwaith wedi nodi dangosyddion ansawdd sy'n berthnasol i ymweliadau iechyd
  • dyfeisio egwyddorion staffio nyrsys dros dro drafft i lywio ac arwain cynlluniau gweithlu fel mesur dros dro nes bod y ddeddf yn cael ei hymestyn i ymweliadau iechyd
  • mae staff rheng flaen o bob rhan o Gymru wedi bod yn weithgar yn natblygiad drafft cyntaf Lefelau Gofal Cymru ar gyfer ymweliadau iechyd