Neidio i'r prif gynnwy

Ffrwd waith cleifion mewnol iechyd meddwl

Dau berson yn dal calon

Ynghylch y ffrwd waith

Mae’r grŵp ffrwd waith cleifion mewnol iechyd meddwl yn cynnwys uwch gynrychiolwyr o bob Bwrdd Iechyd ledled Cymru. Mae’r ffrwd waith yn cwrdd yn rheolaidd, ac yn gweithio tuag at ddatblygu a phrofi adnodd cynllunio’r gweithlu ar sail tystiolaeth i’w ddefnyddio o fewn gwasanaethau cleifion mewnol iechyd meddwl yng Nghymru.

Nod

Dilyn ymagwedd ar sail tystiolaeth i greu dulliau, adnoddau a thechnegau cadarn er mwyn pennu lefelau staff nyrsio priodol o fewn wardiau cleifion mewnol iechyd meddwl, gan ddefnyddio’r model triongli cyffredin.

Bydd yr adnoddau a grëir gan y ffrwd waith yn galluogi Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd i gyfrifo’r nifer a’r cymysgedd sgiliau cywir o ran staff nyrsio sydd eu hangen i ddarparu gofal effeithiol i gleifion ar wardiau cleifion mewnol iechyd meddwl.

Cylch Gorchwyl

Ar ran GIG Cymru, pwrpas y grŵp ffrwd waith yw:

  • creu adnodd cynllunio’r gweithlu ar sail tystiolaeth ar gyfer lleoliadau cleifion mewnol iechyd meddwl i’w ddefnyddio yng nghyd-destun Cymru
  • cefnogi’r defnydd o ddull triongli er mwyn cyfrifo lefelau staff nyrsio, sy’n cynnwys datblygu adnodd aciwtedd a dibyniaeth, adnabod dangosyddion ansawdd a phennu sut ellid defnyddio barn broffesiynol i bennu lefelau staffio o fewn lleoliadau cleifion mewnol iechyd meddwl
  • creu, hwyluso a monitro gweithrediad egwyddorion staff nyrsio dros dro cleifion mewnol iechyd meddwl Cymru Gyfan
  • hwyluso a goruchwylio gweithrediad yr adnodd cynllunio’r gweithlu ar gyfer lleoliadau cleifion mewnol iechyd meddwl o fewn Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd yng Nghymru
  • cefnogi strategaeth gyhoeddi a chyfathrebu rhaglenni Staff Nyrsio Cymru Gyfan er mwyn sicrhau bod rhanddeiliaid yn cael y wybodaeth ddiweddaraf ac yn cael eu cynnwys
  • cyflawni’r camau gweithredu a nodir yng nghynllun y grŵp ffrwd waith, yn unol ag amserlenni, gan amlygu’r risgiau a’r heriau i’r gwaith. Mae hyn yn cynnwys gweithio i amserlenni a osodir gan y Cyfarwyddwyr Nyrsio a Grŵp Staff Nyrsio Cymru Gyfan
  • darparu adroddiadau rheolaidd a phapurau sefyllfa ar gynnydd y ffrwd waith yn erbyn cynllun y ffrwd waith i’r Grŵp Staff Nyrsio Cymru Gyfan a’r Cyfarwyddwr Nyrsio/Prif Swyddog Nyrsio
  • creu argymhellion ar sail adolygiad o’r dystiolaeth bresennol a sicrhau aliniad gyda safonau cenedlaethol a rhyngwladol.

 

Uchafbwyntiau’r cynnydd hyd yma

  • Cyhoeddi cylchlythyr
  • mae’r ffrwd waith yn ystyried dangosyddion ansawdd sy’n berthnasol i wasanaethau cleifion mewnol iechyd meddwl
  • mae staff nyrsio wedi cymryd rhan mewn arolygon shifftiau staff
  • cynhaliodd timau gweithredol archwiliadau ddwywaith y flwyddyn gan ddefnyddio gweithdy barn broffesiynol i gasglu gwybodaeth am farn broffesiynol nyrsys ar leoli staff nyrsio
  • creu egwyddorion staff nyrsio dros dro drafft i lywio ac arwain ar gynlluniau’r gweithlu’n lleol fel mesur dros dro nes bydd y ddeddf yn cael ei hymestyn i wasanaethau cleifion mewnol iechyd meddwl
  • mae staff rheng-flaen wedi bod yn cefnogi datblygiad Lefelau Gofal Cymru, sef yr adnodd aciwtedd a dibyniaeth cleifion cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau cleifion mewnol iechyd meddwl.