Neidio i'r prif gynnwy

Ffrwd waith cleifion mewnol meddygol a llawfeddygol acíwt sy'n oedolion

Meddygon yn cerdded lawr coridor

Ynghylch y ffrwd waith

Mae’r ffrwd waith cleifion mewnol meddygol a llawfeddygol acíwt sy’n oedolion yn cynnwys uwch gynrychiolwyr o bob Bwrdd ac Ymddiriedolaeth Iechyd ledled Cymru. Mae’r ffrwd waith yn cwrdd yn rheolaidd i fwrw ymlaen â’r camau gweithredu a nodir yng nghynllun prosiect y ffrwd waith ac i gefnogi Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd yng Nghymru i fodloni gofynion Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru).

Nod

Dechreuodd ail ddyletswydd Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) mewn wardiau meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion yng Nghymru ym mis Ebrill 2018. Ers i’r grŵp gael ei sefydlu, mae ei nod wedi newid o ddatblygu adnodd cynllunio’r gweithlu ar sail tystiolaeth i feysydd meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion a pharatoi Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd yng Nghymru ar gyfer y Ddeddf, i gefnogi Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd i fodloni gofynion y Ddeddf a glynu at yr ymagwedd ‘Unwaith i Gymru’. 

Cylch Gorchwyl

Ar ran GIG Cymru, cylch gorchwyl y grŵp yw:

  • hyrwyddo darpariaeth effeithiol gofal o safon drwy ddarparu lefelau staff nyrsio priodol o fewn wardiau cleifion mewnol meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion ledled Cymru
  • cefnogi’r defnydd o ddull triongli i gyfrifo lefelau staff nyrsio, sy’n cynnwys datblygu adnodd aciwtedd a dibyniaeth, adnabod dangosyddion ansawdd a nodi sut gall barn broffesiynol gael ei defnyddio i bennu lefelau staffio o fewn meysydd meddygol a llawfeddygol acíwt oedolion
  • adolygu, mireinio a monitro defnydd o’r adnodd aciwtedd a dibyniaeth, ‘Lefelau Gofal Cymru’, wrth i’r sail dystiolaeth barhau i ddatblygu
  • hwyluso a goruchwylio gweithrediad yr adnodd cynllunio’r gweithlu o fewn Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd yng Nghymru
  • cefnogi Byrddau Iechyd Cymru i ddilyn ymagwedd ‘Unwaith i Gymru’ er mwyn bodloni gofynion y Ddeddf
  • cefnogi strategaeth gyhoeddi a chyfathrebu rhaglenni Staff Nyrsio Cymru Gyfan er mwyn sicrhau bod gan randdeiliaid wybodaeth a’u bod yn cael eu cynnwys
  • cyflawni’r camau gweithredu a nodir yng nghynllun y gweithgor erbyn y terfynau amser cywir, gan amlygu’r risgiau a’r heriau i’r gwaith
  • cynnig adroddiadau uchafbwyntiau rheolaidd er mwyn cyflwyno argymhellion, ceisio cymorth a chanllawiau gan y Grŵp Staff Nyrsio Cymru Gyfan
  • adolygu canfyddiadau archwiliadau aciwtedd oedolion pob chwe mis ym mis Ionawr a Mehefin pob blwyddyn, a chreu argymhellion er mwyn gwella dibynadwyedd yr adnodd archwilio; ehangu ymarferoldeb dadansoddol; ymateb i adborth gweithredol gan dimau wardiau; a rhoi cyngor a chymorth i lywio datblygiad parhaus. Cyflwyno’r canfyddiadau a chreu argymhellion i’r grŵp Staff Nyrsio Cymru Gyfan.
  • cydgysylltu â/comisiynu gwaith gan y grŵp Rhwydweithio System Monitro Iechyd a Gofal Cymru Gyfan ynghylch monitro safonau ansawdd gofynnol GIG Cymru er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r Ddeddf
  • cefnogi a rhoi cyngor i is-grwpiau i gyflawni gwaith tasg a gorchwyl penodol fel y’i nodir yng nghynllun y ffrwd waith (e.e.: grŵp adolygu canllawiau gweithredol), gan weithredu fel sianel rhwng yr is-grŵp a’r Grŵp Staff Nyrsio Cymru Gyfan.

Uchafbwyntiau’r cynnydd hyd yma

  • wedi cyhoeddi cylchlythyr pob chwe mis
  • dyfeisio lolfa o dempledi adrodd a chanllawiau i sicrhau cysondeb o ran y broses adrodd
  • adolygu’r systemau gwybodeg sydd eu hangen er mwyn cofnodi’r wybodaeth ofynnol i lywio’r broses adrodd
  • dyfeisio canllawiau gweithredol ar gyfer timau nyrsio
  • cyhoeddi cwestiynau cyffredin i gleifion
  • cyhoeddi cwestiynau cyffredin i staff nyrsio
  • creu ystod o ddeunyddiau gwybodaeth.