Neidio i'r prif gynnwy

Academi Endoscopi Cymru

2024 - Rhaglen Hyfforddiant Canolog

Mae AaGIC yn falch o gyhoeddi dyddiadau hyfforddi newydd i gefnogi endosgopyddion a nyrsys endosgopi dan hyfforddiant, gweithwyr cymorth gofal iechyd, rheolwyr a staff gweinyddol a chlerigol yng Nghymru. Yn 2024, bydd y cyrsiau hyn yn cael eu darparu mewn lleoliad newydd, Canolfan Academaidd Keir Hardie (Merthyr Tudful), gydag ystafelloedd seminar o ansawdd uchel a gofod labordy clinigol pwrpasol.

Hyfforddiant Endosgopydd

Bydd y rhaglen yn anelu at gefnogi'r cyrsiau canlynol a gymeradwyir gan JAG (a fydd yn cael eu hysbysebu ar wefan System Hyfforddiant Endosgopi JAG (JETS). Lle y cytunwyd ar ddyddiadau dros dro, dangosir y rhain er gwybodaeth ond gallant newid;

Cwrs GI Uchaf Sylfaenol JAG (Diwrnod 1 yn Keir Hardie AC, Diwrnod 2 Ysbyty Brenhinol Morgannwg) –  13eg & 14eg Tachwedd 2024.

Cwrs colonosgopi JAG (cwrs 3 diwrnod, a gynhelir yn Ysbyty Tywysoges Cymru) –  26 - 28 Mehefin

Cwrs GI Uchaf Therapiwtig JAG - cwrs 2 ddiwrnod yn Keir Hardie AC – 16eg a 17eg Medi 2024.

 

Cwrs Hyfforddi'r Hyfforddwr Endosgopi JAG – cwrs 2 ddiwrnod yn Keir Hardie AC – 11eg & 12fed Mehefin 2024.

Yn ogystal â chyrsiau JAG ffurfiol, cynhelir diwrnod sefydlu SPRINT ym mis Medi 2024 ar gyfer hyfforddeion meddygol a llawfeddygol sy’n newydd i endosgopi ac yn parhau i gefnogi Rhaglen Endosgopi Clinigol lwyddiannus AaGIC (bydd ceisiadau ar gyfer rhaglen 2024 yn cael eu hysbysebu ym mis Mawrth/Ebrill).

Hyfforddiant Nyrs Endosgopi

Byddwn yn parhau i gynnal cyrsiau ENDO drwy gydol 2024 i gefnogi hyfforddiant sylfaen yn erbyn fframwaith cymhwysedd Gweithlu JETS a chynorthwyo unedau i fodloni'r mandad JAG newydd o fewn y Safonau Achredu JAG diweddaraf (2023). Bydd cyrsiau ENDO 1 yn parhau i gael eu cynnal ar sail ranbarthol o fewn ysbytai, e-bostiwch heiw.endoscopy@wales.nhs.uk i ofyn am gwrs lleol rhad ac am ddim.

Mae’r cwrs ENDO2 sy’n cefnogi datblygiad y sgiliau sydd eu hangen ar gynorthwywyr endosgopi yn ystod gweithdrefnau therapiwtig yn cael ei ddiweddaru ac mae Arweinwyr Hyfforddiant Cymru yn gweithio gyda’r JAG ac Arweinwyr Hyfforddiant o Academïau Endosgopi eraill y DU i ddiweddaru fformat y cwrs gyda’r bwriad o gyflwyno’r fformat ENDO 2 diweddaraf hwn yn ystod 2024. Bydd manylion ar gael cyn gynted ag y bydd JAG wedi cymeradwyo'r fformat newydd.

Bydd cyrsiau ENDO3 ar gael i'w harchebu ar-lein trwy wefan JETS ar gyfer nyrsys sy'n dymuno gwella eu sgiliau rheoli, hyfforddi ac arwain. Yn unol â diweddariad JAG ar fformat ENDO3 byddwn yn ceisio cynnal cwrs ENDO3 yng Nghymru (mae dyddiadau dros dro wedi'u neilltuo -17eg Ebrill a 4ydd Tachwedd 2024).

Ac yn olaf

Am y tro cyntaf yn 2024 byddwn yn hysbysebu ac yn cynnal cwrs hyfforddi ar gyfer Staff Gweinyddol a Chlercol sy'n gweithio yn y Gwasanaeth Endosgopi, a chwrs Sgiliau Annhechnegol Endosgopig (ENTS) a fydd yn berthnasol i bob aelod o'r tîm Endosgopi.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau cychwynnol, cysylltwch â thîm Hyfforddiant yr Academi Endosgopi drwy

HEIW.Endoscopy@wales.nhs.uka bydd rhywun yn ymateb i'ch ymholiad cyn gynted â phosib.